Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGWEDDAU AR HANES DYSG GYMRAEG: DETHOLIAD o DDARLITHIAU G. J. WILLIAMS. Golygwyd gan Aneirin Lewis. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1969. Tt. x, 286. 45s. Y mae'r gyfrol hon yn gyfraniad eithriadol o jbwysig i hanes ysgol- heictod yng Nghymru. Y diweddar Athro Griffith John Williams oedd ein pennaf awdurdod ar y pwnc, ac ardderchog o syniad oedd crynhoi rhai o'i ddarlithiau, cyhoeddedig ac anghyhoedd, yn un gyfrol. Y mae'r gyfrol yn agor gyda thair pennod led faith ar feysydd eang: hanes y llawysgrifau Cymraeg, hanes ysgolheictod Gymraeg y Dadeni (1550- 1700), a rhai agweddau ar weithgarwch ysgolheigaidd y cyfnod 1700- 1858 (gan gynnwys hanes yr eisteddfod a'r orsedd). Yn dilyn fe geir chwe phennod fyrrach, at ei gilydd, yn ymdrin ag ysgolheigion neu lenorion unigol: Gruffydd Robert, Wiliam Midleton, Stephen Hughes, Edward Lhuyd, William Owen [-Pughe] ac Ab Ithel. Ym mhob un o'r penodau hyn, ac yn enwedig yn y tair gyntaf, fe welir ffrwyth ymchwil digymar ei drylwyredd a'i fanyldeb yn y ffynonellau print a llawysgrif, a hwnnw wedi'i gyfundrefnu yn eglur a diddorol. Gan mai darlithiau neu gyfresi o ddarlithiau oedd y penodau'n wreiddiol, ni nododd yr Athro William ei ffynonellau ynddynt ac nid ydynt ychwaith heb beth ailadrodd yma a thraw. Ond bychan o bris yw hwn i'w dalu am gael y fath drysorfa gwybodaeth i'n dwylo. Y mae'r gyfrol yn cynnwys hefyd ddau atodiad tra gwerthfawr. Y cyntaf o'r ddau yw'r memorandwm a sgrifennodd G. J. Williams c. 1950 'ynglyn a sefydlu Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg' yn Aber- ystwyth-yr unig ddogfen o blith ei holl bapurau y dywedodd yn bendant ei fod am ei ddiogelu i'r dyfodol. Chwerw yw gorfod cofnodi fod ei freuddwyd mor bell o gael ei sylweddoli heddiw ag ydoedd ugain mlynedd yn 61. Yr ail atodiad yw llyfryddiaeth gyflawn o waith cyhoeddedig G. J. Williams: naw o gyfrolau ysgolheigaidd a thros ddau gant o lyfrynnau, erthyglau, nodiadau, adolygiadau, beirniadaethau a cherddi. Dyma gynhaeaf oes o lafurio gan wr a oedd yn wir yn 'benaig ar ysgolheigion'. Fe wnaeth Mr. Aneirin Lewis ei waith fel golygydd yn effeithiol a diymhongar dros ben. Yn wir, bu'n rhy ddiymhongar unwaith o leiaf, oherwydd fe ddylasai ar bob cyfrif fod wedi cynnwys cyfeiriad at ei erthygl ef ei hun ar 'Ieuan Fardd a'r gwaith o gyhoeddi hen lenyddiaeth Cymru' (Journal of the Welsh Bibliographical Society, viii, 120) fel nodyn godre ym mhennod III. Efallai hefyd y gallesid fod wedi ychwanegu cyfeiriadau at ambell gyfraniad gan ysgolheigion eraill a fu'n gweithio yn y maes ar 61 G. J. Williams, megis erthygl yr Athro T. Gwynfor Griffith, 'Italian humanism and Welsh prose' (Yorkshire Celtic Studies, vi, 1), ynglyn â'r ymdriniaeth a Gruffydd Robert. Mantais amlwg mewn cyfrol o'r fath fuasai cael mynegai gweddol gyflawn, ond efallai i'r wasg farnu y buasai hynny'n ychwanegu gormod at gost y gyfrol. Sut bynnag,