Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y mae'n gaffaeliad nodedig fel y mae, a rhaid diolch yn gynnes i Mr. Aneirin Lewis am ei lafur medrus ac anhunanol yn dwyn gwaith ei hen athro i olau dydd. [This volume of largely unpublished material by the late Professor Griffith John Williams, very competently edited by Mr. Aneirin Lewis, contains chapters on the following subjects: the history of Welsh manu- scripts; the history of Welsh scholarship during the Renaissance, 1550-1700; some aspects of the history of Welsh literature and scholarship in the eighteenth century, including the history of the eisteddfod and gorsedd up till 1858; Gruffydd Robert; William Midleton; Stephen Hughes and his times; Edward Lhuyd; William Owen [-Pughe]; and Ab Ithel. It also includes a memorandum written by Professor Williams c. 1950 advocating the founding of a Research Department for Welsh Studies at Aberystwyth, and a comprehensive bibliography of his published writings. The volume is a contribution of the first importance to the history of Welsh learning and letters.] R. GERAINT GRUFFYDD Aberystwyth YNG NGHYSGOD TREFECA. Gan R. T. Jenkins; gol. gan Alun Llywelyn- Williams. Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, Caernarfon, 1968. Tt. 195, 20s. Casgliad o un ar ddeg o ysgrifau Dr. R. T. Jenkins a gyhoeddwyd mewn gwahanol gylchgronau, enwadol gan mwyaf, rhwng 1932 a 1961 yw'r gyfrol olaf yma o waith hanesydd sydd wedi'n gadael ers pan ymddangosodd. Detholwyd yr ysgrifau gan Mr. Alun Llywelyn-Williams o dan gyfarwyddyd yr awdur ond syniad hapus y golygydd oedd "casglu'r briwfwyd gweddill fel na choller dim!" Gan nad yw'r cylchgronau lle'r ymddangosodd yr ysgrifau yma gyntaf o fewn cyrraedd pawb, cymwynas i'r rheiny sy'n pori ym meysydd hanes crefydd yng Nghymru yw hyn ond nifer bach, ysywaeth, ydynt erbyn hyn. Ni ellir disgwyl gwastadrwydd ac unoliaeth mewn casgliad sy'n gynnyrch cyfnod lied faith ac ar amrywiol bynciau. Y thema sy'n rhedeg drwyddi yw Methodistiaeth yn ystod ei chanrif gyntaf a hynny a awgryma'r teitl. Y mater yw gwahanol agweddau ar ei gweithgareddau ac ymateb personau ac enwadau eraill iddi. Mae'n dilyn fod rhai cyfraniadau yn fwy pwysig a chyfoethog na'i gilydd ac fe fyddwn i'n ystyried 'Yr Annibynwyr Cymreig a Hywel Harris', 'Methodistiaeth ym Mhapurau Thomas Morgan, Henllan' a 'Diarddeliad Peter Williams' fel y rhai teilyngaf i'w hail-gyhoeddi. Dengys y rhain gymaint oedd dyled Methodistiaeth i'r Hen Anghydffurfwyr, ac mor anelwig oedd y ffin rhwng enwadau yn y cyfnod cynnar yma. Cawn hefyd gipdrem ar y