Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ar y dadwrdd diwinyddol, y furor theologicus, a fu'n pwyso mor drwm ar feddyliau ac eneidiau arweinwyr crefyddol yr oes honno. Ymddengys iddynt gylchdroi o amgylch tri phwnc sylfaenol. Hawl yr unigolyn i bregethu'r Gair ac i weinyddu'r Sacrament oedd y cyntaf. Arswydai'r saint rhag peri unrhyw rwyg diangen yn yr Eglwys, ond fe gredai John Wesley fod gan henuriad neu weinidog lawn gymaint o hawl i ordeinio ag unrhyw esgob. Eto, gwyddai'r Methodistiad yn eu calonnau fod yr Arglwydd Mansfield yn llygad ei le pan rybuddiodd Charles Wesley fod y fath ordeiniad yn gyfystyr ag ymwahaniad. Ildiodd John Wesley, ac er iddo barhau yn Uchel Eglwyswr ffyddlon ar hyd ei oes, bu hefyd-a dyma baradocs mwyaf ei yrfa-yn arweinydd i'r garfan Anghydffurfiol fwyaf yn Lloegr. Ar y Haw arall, bu Howel Harris, 'yr Archgymodwr Mawr', yn gyndyn dros gadw'i braidd Methodistaidd o fewn y gorlan Eglwysig. 0 ganlyniad, y drychineb fu i bawb ymlwybro heibio'r broblem nes i Thomas Charles ymwroli a gwynebu realiti'r sefyllfa yn 1811. Asgwrn yr ail gynnen oedd y dadleuon hynny a gorddwyd gan y Morafiaid ynghylch angenrheidrwydd moddion gras. Tra oedd y Morafiaid yn tueddu i ddibrisio gweithredoedd da, credai'r Methodistiaid yn ffyddiog eu bod yn hanfodol bwysig. Y trydydd pwnc llosg-un ag iddo linach anrhydeddus-oedd etholedigaeth. Dyma, fel y gwyddys, lie dewisodd Wesley a Harris ddilyn llwybrau gwahanol. Serch hynny, dengys yr awdur mai dim ond ar achlysuron arbennig y pwysleisient eu rhagdybiau diwinyddol. Pregethu'r Gair ac achub eneidiau oedd eu cyfrifoldeb pennaf a gwyddent, o brofiadau digon chwerw, mor hawdd y gallai ymresymu droi'n edliw ac athronyddu droi'n ymgecru. Wedi darllen y llyfr hwn, daeth sylw perthnasol o eiddo y Tad Philip Hughes i'm cof: 'Ac yn hyn i gyd, pa le mae meddwl a chalon y dyn cyffredin?' Mae'n amlwg mai clerigwyr a gai'r monopoli ar y dadleuon y sonia Griffith Roberts amdanynt, a hoffwn pe bae wedi ceisio turio'n ddyfnach na phlisgyn allanol y cwerylon hyn i wraidd y gymdeithas gyfoes. Gellid bod wedi gofyn sawl cwestiwn. Er enghraifft, pa mor ddwfn (os o gwbl) y treiddiodd y diwinydda hyn i ymwybyddiaeth y cynulleidfaoedd Methodistaidd ? Pa wahaniaethau o ran safon addysgiadol a geid rhwng clerigwyr a lleygwyr Methodistaidd? Llwyddodd Robert Currie yn ddiweddar i gyfuno'n ddeheuig iawn y wedd gymdeithasegol a'r perspectif diwinyddol wrth astudio rhaniadau'r Methodistiaid. Tybed a oes gobaith i ystyriaethau cymdeithasegol wisgo mantell o barchusrwydd yng Nghymru hefyd? Cofier mai pregethu adpopulum a wnai'r Methodist- iaid, ac fe deimla'r adolygydd hwn, o leiaf, bod ailgreu gwerthoedd, teyrngarwch a dyheadau y mwyafrif anhyglyw yr un mor bwysig ag esbonio profiadau dyrys y lleiafrif blaenllaw. Nid yw hyn i'w gymryd fel beirniadaeth ar lyfr Griffith Roberts, ond teg dangos bod dimensiwn arall a all gyfoethogi'r math hwn o astudiaeth. Haedda'r awdur glod am drafod testun astrus mewn dull mor gatholig