Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AROS MAE. Gan Gwynfor Evans. Gwasg John Penry, Abertawe, 1971. Td. 325. £ 2.00. Dywed yr awdur nad 'gwaith academaidd sy'n cymryd arno fod yn ddiduedd a geir yma'; ac yn sicr, dylid ystyried Aros Mae. yn nhermau beirniadaeth Mr. Evans o'i waith ei hun. Ysgrifennodd ei fraslun personol o ddiffyg yr un ymgais gyfoes arall i olrhain hanes y genedl o ddyddiau Caradog hyd at ffurfio Plaid Cymru ym 1925. Er mor amryfal hanes Cymru yn yr ugain canrif a drafodir gan Mr. Evans, gwel ef ddolen gydiol drwy'r oesau yn niweirdeb y traddodiad Cymreig, ym mharhad yr iaith, 'yn ymdrech wych y genedl fach i gadw ei hunaniaeth, i fyw ei bywyd ei hun, i warchod ei gwerthoedd ac i gynnal ei thraddodiad'. Cynheiliaid a cheidwaid y dyhead hwn oedd ei harweinwyr; ei thywysogion o waed yng nghyfnod ei rhyddid a'r tywysogion hynny, megis Pantycelyn, Hywel Harris a Gruffudd Jones a hanoedd o'r werin yn nyddiau ei chaethiwed. Gwel orffennol puraf y Cymry yn y cyfnod annelwig hwnnw cyn syrthio o'r wlad i uchelgais imperialaidd rheibus y Sais mor gynnar a'r seithfed ganrif; ceisiwyd cynnal y traddodiad a'r dreftadaeth yn erbyn ymosod- iadau blin y Saeson gan dywysogion Cymru ond collwyd y frwydr oherwydd brad y bonedd a deddfwriaeth y Tuduriaid. Er hynny ni phallodd y traddodiad gan fod y werin wedi etifeddu dyheadau ei thywysogion ac ynddi hi y cafwyd Iloches i'r gwerthoedd hynny a fu'n wir galon i'r genedl. Ond rhaid oedd meithrin a chyfoethogi'r werin a rhoi mynegiant byw i'r ddelwedd a gorchwyl ei harweinwyr mwyach, yn 61 Mr. Evans, yw creu cenedl benderfynol, yn iach yn ei gwybodaeth o'i thraddodiadau ac yn sicr ei chamre. I raddau helaeth felly, moli gwyrda yw prif nodwedd y llyfr ac oherwydd hynny y mae ei batrwm a'i wead yn bur gonfensiynol. Y mae hefyd yn wir bod thema'r traddodiad digyfnewid yn amharu ar gytbwysedd y gwaith gan fod ei draean yn ymwneud a chyfnod na wyddys odid ddim am ei hanes gwleidyddol heb son am ddyheadau dyfnaf y genedl. Ond nid hyn yw prif ddiffyg y llyfr. Fel cenedlaetholwr ymroddedig y mae Mr. Evans yn sgrifennu; nid rhaid esgusodi hyn. 0 ddwyn y gynneddf feirniadol at ei dystiolaeth gall y cenedlaetholwr gyfoethogi ein dealltwriaeth o sefyllfa ei genedl a'i harweinwyr mewn cyfnod o gyfyngder. Ond yn Aros Mae ar brydiau collir y dehongliad dilys yn ogystal a'r genadwri genedlaethol. Er enghraifft, gellid dweud mai mantais nid llestair yw'r ymwybyddiaeth genedlaethol wrth geisio gwerthfawrogi ing Anarawd neu Lywelyn Fawr yn awr eu hargyfwng. Nid oes angen barnu Mr. Evans am iddo olrhain hanes ei genedl fel cenediaetholwr ond yn hytrach am iddo yn ami golli rhin y neges genedlaethol a hithau yno i'w mynegi. Er hynny rhaid nodi yn gwbl ddidwyll nad camp bychan yw eiddo. Mr. Evans. Ysgrifennodd arolwg gwerthfawr a chynhwysfawr o hanes Cymru mewn modd darllenadwy bywiog tra llechai'r haneswyr proff- esiynol y tu 61 i'w hastudiaethau manwl. Gwelodd yr angen ac aeth ati. Dylem ninnau ddilyn ei esiampl. [Mrs. Smith, in reviewing Mr. Gwynfor Evans's unique survey of the whole course of Welsh history, Aros Mae. agrees with the author that