Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

by conventional standards puzzled and antagonised those of his subjects upon whose support he could otherwise have relied. In this unprecedented situation the magnates reacted not as 'parties' but as individuals with differing interests whose attitudes depended upon momentary circumstance. It is thus in the field of interpretation that the major importance of this book lies. It is impossible, however, to do justice to its closely-argued nature in a brief review. There is a good deal of new detail as well as new emphasis: on the negotiations preceding the Treaty of Leake, on the part played by favourites between the death of Gaveston and the rise of the Despensers, and upon the prevalence of indentures between the king and leading magnates. Dr. Phillips uses this evidence to rid us finally of an historical device which had outlived its purpose. There will be small lamentation at its passing. G. A. USHER Bangor. ARGRAFFWYR CYNTAF CYMRu-GWASGAu DIRGEL Y CATHOLIGION ADEG ELISABETH. Gan R. Geraint Gruffydd. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1972. Tt. 23, 25 c.n. Dywedodd Glanmor Williams mewn darlith enwog mai 'ci sy heb gyfarth' yw'r Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru, ond mai 'ci sy wedi cyfarth yn rhy ami' yw'r Gwrthddiwygiad a'i ardderchog lu o ferthyron. Ond mae un agwedd ar hanes pabyddiaeth yng Nghymru yn oes Elisabeth I sy wedi ei hesgeuluso, a hynny yw pwnc yr athro R. Geraint Gruffydd. Dywedir yn ffyddiog mewn llawer llyfr hanes mai gwasg Isaac Carter yn Nhrehedyn yn 1718 oedd y gynta yng Nghymru. Ond mae'r athro Gruffydd yn mynd fel Sherlock Holmes ar drywydd o leia dair o wasgau dirgel a fu'n argraffu 'propaganda', a hynny ar dir Cymru neu o fewn ergyd carreg i'n ffiniau ni, yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Er bod y Catholigion wedi cyhoeddi ambell lyfr Cymraeg cyn hynny, yn 1586 y sefydlwyd y wasg gynta, yn 61 pob tebyg, yn ogof Rhiwledyn ger Llandudno, ac ar hon yr agraffwyd rhan o leia o'r Drych Cristionogawl. Mae'r athro yn ceisio datrys peth o'r dirgelwch ynglyn ag awdur y gyfrol hon, ac wrth wneud hyn, mae yn ein tywys ni i'r ail wasg ddirgel yng Nghymru, yn nhŷ Sion Dafydd Rhys yn Aberhonddu. Credaf mai yr ail ran o'i ddarlith, yn delio a Sion Dafydd Rhys, fydd o fwyaf o ddiddordeb i'w ddarllenwyr. Mae'n adrodd y stori yn wir gyffrous o ddiddorol. Beth all haneswyr cymdeithasegol wneud o gefndir a gyrfa Sion Dafydd Rhys? Roedd yn Babydd, wedyn yn Brotestant, yn Babydd ac yn Brotestant eta, ac yn nai i'r esgob Richard Davies. Gwneir defnydd yma o waith diweddar ysgolheigion megis yr athrawon Dionisotti a Gwynfor Griffith ar Sion Dafydd Rhys a'i lyfrau. Ar yr wyneb, Protestant go lwyddiannus oedd ef, ond yn 61 yr athro Gruffydd roedd iddo, am beth amser, yrfa ddirgel fel Pabydd ac argraffydd propaganda, dwy fuchedd fel Jekyll a Hyde, os mynner, a hynny yn ystod yr wythdegau. Daw rhan o'r