Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNRYCHIOLAETH A CHYNNEN: AGWEDDAU AR HANES SENEDDOL A CHYMDEITHASOL SIR FON YNG NGHANOL YR UNFED GANRIF AR BYMTHEG YM mlynyddoedd canol yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd yn Sir Fon ddwy blaid ymhlith ysgwieriaid yr ynys yn cystadlu'n ffyrnig a'i gilydd am gynrychiolaeth y sir yn Nhy'r Cyffredin. Buddugoliaeth mewn etholiad seneddol oedd yn anhepgorol yn y 'rhyfel' rhwng y ddau grwp am uchafiaeth gymdeithasol. Y ddau grwp o ysgwieriaid oedd, ar y naill law, yr hen foneddigion Cymreig a'u cynghreiriaid gydag ystadau yn bennaf yng ngorllewin a de-orllewin y sir, ac, ar y Haw arall, y newydd-ddyfodiaid, 'estron' a Seisnig gan mwyaf, o ddwyrain a de-ddwyrain Mon, o dan bennaeth teulu Bwclei o Fiwmares. Y mae'r dewis o Aelodau Seneddol dros y sir a dros y bwrdeistrefi yn y cyfnod hwn yn tystiolaethu'n bendant i'w hymdrech i gael grym yn yr ardal ac i'r rhwyg dwfn ym mywyd cymdeithasol yr ynys. Yn yr erthygl hon fe hoffwn i ddangos sut y gall astudiaeth o'r etholiadau seneddol daflu golau ar hanes cymdeithasol Sir Fon yng nghanol y cyfnod Tuduraidd.1 Yn yr ymrafael rhwng y boneddigion ym Mon aelodaeth o'r Senedd oedd yn eithriadol o bwysig: achlysurau digyffelyb oedd etholiadau seneddol i ddangos ble yn union y gorweddai pwer yn y sir. Dwy sedd seneddol yn unig oedd ar gael: un dros y sir ac un arall dros y ddwy fwrdeistref o Niwbwrch a Biwmares. Wrth gwrs, y prinder hwn o seddau a gynyddai'r chwerwder a deimlid rhwng y ddwy blaid. Pa beth oedd sail y chwerwder hwn? Ni ddylid cymryd yn ganiataol fod yr ymryson etholiadol a chymdeithasol yn hannu'n syml o wreiddiau 'cenedlaethol' yr ymgeiswyr. Pe buasai'r ymdrech am rym yn un 'genedlaethol' yn ei gwreiddiau dylid fod wedi disgwyl i'r teuluoedd Seisnig ar yr ynys-sef, y Woods, yr Hollands a'r Bwcleiod-uno yn gadam yn erbyn yr ysgwieriaid Cymreig. Ond nid oedd y sefyllfa mor glir a syml a hynny. Yn Sir Fon yn y cyfnod hwn y mae'n bosibl canfod tri dosbarth o fonheddig. Yn gyntaf daeth yr ysgwieriaid brodorol o hen linach, y buasai eu teuluoedd yn trigo ar yr ynys ers canrifoedd; enghreifftiau o'r rhain oedd teulu Owen o 1 Edrychir yn yr erthygl hon ar yr etholiadau rhwng 1542, y Senedd gyntaf yr ymddangosodd Aelodau Cymreig ynddi, a 1559: sef y deg Senedd o 1542(-44), 1545(-47), *547(-52), 1553 (Mawrth), 1553 (Hydref i Dachwedd), 1554 (Ebrill i Fai), 1554 (Tachwedd-Ionawr 1555), 1555 (Hydref i Dachwedd), 1558 a 1559. 4 Gw. E. G. Jones, 'Some Notes on the Principal County Families of Anglesey in the 16th and early 17th Centuries', Trafodion Hynafiaethwyr a Naturiaethwyr M6n (1939), tt. 61-75; (1940), tt. 46-61.