Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

drons on his Cornish estates seems to have been an equal attraction. Secondly, it is not clear that most of the heterogeneous band of men he then led would have accepted such a decision. Above all, as Dr. Sack points out, for families like the Spencers, Carlisles, Aucklands and Mintos, which had broken with Charles Fox's views on the French Revolution, in 1794, the Grenvillites were an option by which they might ward off an irrevocable and long-term commitment to Pittite politics; 'Lord Grenville had been the main force uniting many prominent families, both Portland, Whig and Pittite, into what was to become the great national post-1830 governing party of Britain.' When Grenville himself finally broke with the Whigs, in 1817, most of his erst- while followers stayed with the Whigs. Only in this rather oblique way can the Grenvillite excursion into opposition politics between 1801 and 1817 be called a success. Dr. Sack has had the apparent misfortune of seeing the Dropmore manuscripts enter the British Library shortly after this book was written. Their perusal will no doubt lead to new insights. Until then, this book will stand as a useful guide to a highly complex period of politics. LESLIE MITCHELL University College, Oxford RADICALIAETH A'R WERIN GYMREIG YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG. Gan Frank Price Jones. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1977. 206tt. £ 3.95. Casgliad o ddeg o ysgrifau y diweddar Frank Price Jones a ymddango- sodd dros gyfnod o ugain mlynedd mewn gwahanol gylchgronau yw'r gyfrol yma. Traddodwyd rhai ohonynt fel darlithiau i amrywiol gym- deithasau ac y mae arddull nodweddiadol yr awdur o draddodi yn amlwg ynddynt. Roedd yn ddisgybl i'r Athro R. T. Jenkins ac ymhyfrydai yn y berthynas honno fel nad rhyfedd fod dylanwad yr athro yn drwm ar y disgybl. Yr un math o bynciau hanesyddol oedd maes eu diddordeb ac fe ellir dweud fod yr ysgrifau geir yn y gyfrol yma sydd, ag un eithriad, yn ymwneud a'r 19eg ganrif, yn llanw bwlch a adawyd pan orffennodd R. T. Jenkins ei Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg ym 1843. Pe cyhoeddasid cyfrol ychwanegol i gario'r hanes ymlaen, pynciau fel Brad y Llyfrau Gleision, Rhyfel y Degwm, twf Radicaliaeth, dylanwad y wasg a'r ymdeimlad cenedlaethol y ceir trafodaeth amynt yn yr erthyglau yma fyddai'r uchelfannau. Er mai fel ysgrifau unigol y'u cynhyrchwyd, y mae'n syndod gymaint o unoliaeth geir yn y casgliad. Mae'n gyfrol deilwng i goffau'r awdur ac yn cynrychioli'n deg gyfraniad Frank Price Jones i hanesyddiaeth Gymreig. Adlewyrchir diddordeb arbennig yr awdur yn ei sir enedigol gan bedair erthygl ar ei hanes. Bu'n ffodus i gael o fewn i Sir Ddinbych nifer o bersonau ac achosion oedd o arwyddocad cenedlaethol. Mae Thomas Jones o Ddinbych yn enghraifft nodweddiadol o'r safbwynt Fethodistaidd geidwadol na fynnai dramgwyddo Gwlad nac Eglwys ym mlynyddau