Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

argyfyngus dechrau'r ganrif pryd yr oedd Y Sefydliad yn enllibio ac yn erlid anghydffurfwyr mewn crefydd a pholitics. Mae'r erthygl ar 'Effaith Brad y Llyfrau Gleision' yn ein hatgoffa nad oedd yr Eglwyswyr wedi rhoi'r gorau i'r agwedd anghymodlawn yma hyd yn oed ym mhed- wardegau y ganrif. Gresynai David Rees, Llanelli, at agwedd oddefol yr Ymneilltuwyr ac at eu claerineb politicaidd. Dyma'r dasg yr ymaflodd arweinwyr y wasg, megis Gwilym Hiraethog a Thomas Gee, ill dau o Sir Ddinbych, ynddi i geisio rhyddhau'r werin o'r hualau oedd yn ei dal yn gaeth i'r Sefydliad. Dengys yr awdur gymaint oedd y newid yn agwedd y Methodistiaid rhwng cyfnod Thomas Jones a'r Dr. Lewis Edwards. Yr olaf, meddai ef, oedd y cyntaf i sylweddoli mor ychydig o ymdrech oedd yn angenrheidiol ar ran yr Ymneilltuwyr i ddymchwel teyrnas boliticaidd y tirfeddianwyr Anglicanaidd, a hynny a esgorodd ar yr ymdrech Radical- aidd o 1859 ymlaen. Serch hynny, yn groes i'r graen yr ymgymerodd tenantiaid Ymneilltuol Sir Ddinbych a Rhyfel y Degwm ac yn yr erthygl swmpus ar y pwnc yma honna Frank Price Jones mai dylanwad Thomas Gee a'r Faner a'u perswadiodd i'r maes. Hwyrach fod hynny yn wir yn achos Sir Ddinbych ond ai tybed yr un mor wir am Sir Drefaldwyn? Gwnaeth yr awdur ddefnydd helaeth o gyfnodolion a chylchgronau a dangosodd mor anhepgorol yw meistroli'r ffynonellau yma i unrhyw un a fyn ysgrifennu ar bolitics y cyfnod. Ceir cyfeiriadau drosodd a thro at 'y werin Ymneilltuol Gymraeg' a cheir ysgrif ganddo ar 'Gwerin Cymru' fel clo ar y cyfan. Mae'r gair 'gwerin'yn un parod at law ac yn anodd i'w hepgor wrth drafod y pynciau dan sylw. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae cywreinrwydd yr hanesydd yn ei arwain i edrych yn fwy manwl ar statws a chysylltiadau cymdeithasol mudiadau, yn enwedig mudiadau o brotest megis Rhyfel y Degwm. Mae'r ysgrifau yma wedi cyfeirio bys at amryw o fylchau yn ein hymchwil hanesyddol a phe baent ond yn ennyn chwilfrydedd rhyw egin hanesydd i wneud astudiaeth gymdeithasegol o rai mudiadau Cymreig perthynol i'r ganrif fe fyddent wedi ateb diben. Pob un at ei ystod yw hi ym myd ysgoloriaeth ac mi fu cynnyrch un Frank Price Jones mor doreithiog a llawer. Fe fydd y gyfrol yma yn fan cychwyn i amryw o ymchwiliadau yn y dyfodol mae'n sicr. E. D. EVANS Caerdydd [Though written over a period of twenty years for various journals, the ten essays on politics and society in nineteenth-century Wales have a surprising unity. That on Thomas Jones of Denbigh examines Methodist reaction and passivity at the start of the century, that on 'The Treason of the Blue Books' the change to activity and hostility. The contribution of David Rees, Gwilym Hiraethog, Thomas Gee and Lewis Edwards to the growth of radicalism is examined in other essays. It was the influence of Thomas Gee that made respectable farmers fight the 'Tithe War'. Since the 'Gwerin' (or nonconformist populace of Wales) is often mentioned, it is fitting that an essay on the 'Gwerin' itself completes the collection, which is a worthy memorial to the late Frank Price Jones as a historian.]