Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

order and produce different patterns of law-breaking from those in rural areas. In conclusion, one can agree with the editors that the value of this book lies in the 'sustained series of reflections' on, and interpretations of, intrinsically flawed evidence. In the history of modern crime, the time for a truly ambitious synthesis has not yet arrived. D. J. V. JONES Swansea RHAGYMADRODDION A CHYFLWYNIADAU LLADIN, 1551 1632. Cyfieithwyd gan Ceri Davies. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1980. Tt. xi, 196. £ 6.95. Cyfieithiad i'r Gymraeg a geir yn y llyfr hwn o'r rhagymadroddion a'r cyflwyniadau i ddeg o'r llyfrau pwysicaf a gyhoeddwyd gan wyth o awduron blaenllaw cyfnod y Dadeni Dysg, 1551 1632-William Salesbury, Sion Dafydd Rhys (2), John Prys, David Powel, William Morgan, Henry Salesbury, Richard Parry, a John Davies (2). Troswyd hwy i Gymraeg fodern, idiomatig a darllenadwy gan Mr. Ceri Davies. Gorchwyl digon anodd oedd gorfod cyfieithu brawddegau hir a chymhleth Lladin y Dadeni-er enghraifft, bu'n rhaid iddo rannu un frawddeg, gwbl gytbwys a pherffeithiedig, o eiddo Sion Dafydd Rhys, yn bedair brawddeg er mwyn ei gwneud yn dderbyniol yn y dull cyfoes. Ond Llwyddodd yn dda, ac o'r braidd fod ei waith yn darllen fel trosiad o gwbl. Gan brinned yw'r myfyrwyr sydd yn awr yn gallu darllen Lladin, dylai'r llyfr fod yn ddefnyddiol iawn yn y colegau-a'r ysgolion o bosibl. Ysgrifennwyd rhagymadrodd cryno a meddylgar i drafod nodweddion amlycaf cynnwys gweddill y llyfr. Ymhel a thri phrif bwnc y mae'r awduron: crefydd, a'r angen am ei dwyn i brofiad a sylw deallus y bobl; hanes, ac yn enwedig dilysrwydd hen hanes y Brythoniaid, er y bydd rhai, mae'n debyg, yn synnu at onestrwydd a doethineb dadleuon gwr fel David Powel; ac, yn arbennig, hynafiaeth ac urddas y Gymraeg fel mam- iaith, a hynodrwydd ei lien. Paham yr ystyriai'r llenorion hyn ei bod yn werth iddynt ymdrafferthu i gyflwyno'u cyfrolau yn yr iaith ladin? Am amryw o resymau-am ei fod yn gonfensiwn llenyddol; am fod yn rhaid i'r sawl y cyflwynwyd y llyfr iddo ddeall yr hyn a ddywedid amdano os nad oedd yn medru Cymraeg; am eu bod yn dymuno i ysgolheigion eraill yn Ewrop allu darllen a gwerthfawrogi eu gwaith; ac yn olaf am eu bod mor drwm o dan ddylanwad y Dadeni Dysg. lawn y pwysleisir dylanwad grymus ac amlochrog y Dadeni ar lenorion o Gymry, a'r un mor bwysig oedd eu hawydd hwy am ddangos y Gymraeg fel iaith a haeddai gymaint o sylw a pharch ag odid un gan wyr y Dadeni. (Mr. Ceri Davies has translated into idiomatic modern Welsh the Latin introductions of ten books published by Welsh Renaissance scholars, 1551 1632. In a short but percipient introduction he raises a number of points concerning the authors' main themes-religion, historical antiquity, and the age and dignity of the Welsh language. He also