Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

REVIEWS BARDOS: PENODAU AR Y TRADDODIAD BARDDOL CYMREIG A CHELTAIDD. Golygwyd gan R. Geraint Gruffydd. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1982. Tt. x, 235. £ 15.95c. Pan benodwyd yr Athro J. E. Caerwyn Williams i'r gadair enwocaf yn y Gymraeg, cadair y gwroniaid John Morris-Jones, Ifor Williams a Thomas Parry, ym Mangor ym 1953, yr oedd yn gwbl deilwng o'r 'olyniaeth apostolaidd' honno. Aeth yn ddiweddarach i fod yn Athro'r Wyddeleg yng Ngholeg Aberystwyth ac yno y bu nes ymddeol ym 1980. Cydnabyddir ef bellach fel un o'r ysgolheigion Celtaidd mwyaf a fagwyd yng Nghymru erioed ac ystyrir ef fel awdurdod penna'r byd yn ein cenhedlaeth ni ar yr ieithoedd a'r llenyddiaethau Celtaidd. Ysgrifennodd yn fanwl ac yn feistraidd ac yn ddiwyd ddiffael ar hyd y blynyddoedd ar restr mor faith ac eang o destunau ieithyddol a llenyddol yn Gymraeg. Wyddeleg a Llydaweg nes peri i ddyn sefyll yn syn a stond o flaen rhychwant anghredadwy ei wybodaeth a'i ddiddordebau. Ar ben hynny ni fu olygydd hafal iddo yng Nghymru; bu'n gofalu ers blynyddoedd am Ysgrifau Beirniadol, Studia Celtica a'r Traethodydd ar yr un pryd, a phob un ohonynt yn ymddangos yn brydlon ac yn gaboledig i'w ryfeddu. A hynny heb son am ei gyfraniadau fel Golygydd Ymgynghorol y Geiriadur. Pe na bai hynny'n ddigon, gwyr pawb a ddarllenodd ei waith am y reddf hanesyddol gelfydd a chadarn a red fel llinyn euraid trwyddo. Pe bai wedi troi at fyd yr hanesydd gallasai foderbynheddiw yn ddiamau ynun o'n haneswyr disgleiriaf oil. Ni theilyngodd yr un ysgolhaig o Gymro gyfrol deyrnged yn fwy haeddiannol nag ef, a hyfrydwch pur yw croesawu'r casgliad hwn o ysgrifau i'w anrhydeddu gan ei gydweithwyr ym Mangor ac Aberystwyth. Mae'r cyfraniadau yn y llyfr yn deilwng o'r ysgolhaig llachar a anrhydeddir ganddynt o ran safon y gwaith ac ehangder y diddordebau a gwmpasir ynddo. Cyflwynwyd ysgrif annwyl ac awdurdodol gan Geraint Gruffydd ar yr Athro Williams fel ysgolhaig a rydd grynodeb ardderchog o'i gyfraniadau helaeth i astudiaethau Celtaidd o bob math, ac un arall gan John Gwilym Jones arno fel cyfaill sydd mor nodweddiadol a naturiol ddireidus ag ydyw'n gynnes. Ni ellir cyfeirio at bob un o'r ysgrifau eraill yma, er cystal ydynt bob un; ond dylid tynnu sylw at rai a fydd yn debyg o fod o ddiddordeb arbennig i haneswyr. Cyhoedda Brynley Roberts ddwy awdl gan Hywel Foel ap Griffri i Owain Goch, brawd Llywelyn ap Gruffydd, y Llyw Olaf, a luniwyd yn ystod ei ail garchariad o 1255 hyd 1277. Diddordeb neilltuol y darnau hyn yw bod y bardd yn apelio at Lywelyn i ryddhau ei frawd ar sail egwyddor foesol. Rhyfedd mor feiddgar y gallai fod, o gofio'r darlun a gyfleir yn fynych o agwedd haearnaidd Llywelyn tuag at ei frodyr. Erthygl werthfawr arall yw honno gan Gwyn Thomas ar gyfundrefn y beirdd yn yr 17eg ganrif. Rhydd arolwg hynod gynhwysfawr inni o ansawdd y farddoniaeth a safle'r beirdd, er y byddai haneswyr, mi dybiaf, yn caru gweld rhoi mwy o sylw i ddylanwadau cymdeithasol yn ogystal a rhai llenyddol. Thema E. G. Millward yw ymateb beirdd a blodeugerddwyr ail hanner y 18fed ganrif