Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANES Ewrop, 1815-1871. Gan Marian Henry Jones. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1982. Tt xvii, 355. £ 9.95. Dylid estyn croeso gwresog i unrhyw gyhoeddiad academaidd newydd yn y Gymraeg, ac yn arbennig i un sydd yn ceisio dilyn trywydd mor arloesol a thestun y llyfr hwn. Dyma'r gwerslyfr cyntaf yn y Gymraeg ar hanes yr Ewrop fodern a gyhoeddwyd dan nawdd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, a dylai arwyddocad y fenter gael ei gydnabod gan bawb a diddordeb ganddynt mewn dysgu hanes modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Gorchwyl Marian Henry Jones oedd llunio braslun cyffredinol o hanes y cyfandir rhwng 1815 a 1939, ac yn ei doethineb dewisodd rannu'r gwaith rhwng dwy gyfrol. Hon yw'r gyfrol gyntaf, ac ynddi ceir trafodaeth fanwl ar ddatblygiadau gwleidyddol a chymdeithasol mewn sawl gwlad yn Ewrop yn ystod y cyfnod rhwng cwymp Napoleon ym 1815 a dymchwel y Commune ym 1871. Rhoddir pwyslais neilltuol, a gormodol efallai, ar gyd-berthynas tymhestlog y pwerau mawr, ac fe gynigir fel sylfaen esboniadol i'r cyfnod y dilechdid hanesyddol rhwng adwaith a rhwysg ymerodraethol ar y naill Haw a chwyldro a chenedlaetholdeb ar y Hall. Ond yma ac acw oddi fewn i'r fframwaith gonfensiynol a thraddodiadol yma ceir is-benodau sydd yn ymdrin mewn modd bywiog ac ymrysongar ag agweddau llai cyfarwydd ar y cyfnod-gweler fel enghraifft sylwadau'r awdur ar rai o arwyr mwyaf blaenllaw y cyfnod megis Bismarck, Cavour a Kossuth. Gwna'r awdur ymdrech deg i gadw cydbwysedd rhwng yr astudiaethau gwledig unigol, ac ar y cyfan symuda'r hanes yn ddeheuig ac yn chwim o wlad i wlad gan gynnwys ar y daith yr ardaloedd 'ymylol' megis Rwsia, Llychlyn a chenhedloedd Brenhiniaeth Habsburg. Ceir mapiau clir a defnyddiol o rai o'r gwledydd hyn ar ddiwedd y llyfr. Yn ddiamheuol, y mae hon yn gyfrol swmpus a chynhwysfawr. Ond er hyn y mae'n amlwg fod cysgod sawl problem ddyrys yn syrthio trosti. Yn gyntaf dylai'r ffaith fod y llyfr wedi gorwedd am oddeutu pum mlynedd yn nwylo'r cyhoeddwyr beri gofid i unrhyw hanesydd a ddymunai gyhoeddi cyfrolau Cymraeg yn y dyfodol. Yn rhannol o ganlyniad i'r gohiriad maith hwn y mae'r llyfryddiaeth a llawer o'r ffynonellau a ddefnyddir eisoes wedi eu goddiweddyd gan gyhoeddiadau hanesyddol mwy diweddar. Yn ogystal, y mae'n amheuol os oedd yr ymdrech hir i lunio polisi unffurfiol ynglyn ag enwau lleoedd yn un gwbl lwyddiannus. Onid pedantiaeth yw defnyddio termau anghyfarwydd brodorol megis 'Moskva' a 'Wien' mewn gwirionedd? Yn ail, gresyn yw sylwi ar bris uchel y gyfrol. Mewn oes o gynilo yn y sefydliadau addysg golyga hyn na all y llyfr hwn gyfrannu yr hyn a ddylai wneud at ddysgu hanes modern hyd at safon lefel A drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar yr un pryd y mae'r gor-symleiddio a chyffredinoli sydd ynddo yn debyg o greu adwaith cryf yn erbyn ei dderbyniad fel llyfr canolog mewn cyrsiau cyffelyb yn y Brifysgol. Gyda Haw, ym 1883 ac nid ym 1889 y bu Karl Marx farw. Dichon mai anawsterau sy'n deillio o natur arloesol y fenter yw y mwyafrif o'r rhain, canys y mae'r adolygydd hwn eisoes wedi ei argyhoeddi fod polisi sylfaenol y Cyd-bwyllgor yn un cywir. Am gyhoeddiadau gwreiddiol yn y Gymraeg y mae'r galw, ac nid am ambell i gyfieithiad neu addasiad o'r clasuron. Eithr ble mae'r adnoddau creadigol ac ariannol yn brin, rhaid wrth sicrhau bod gwerslyfrau Cymraeg ar gyfer disgyblion ein