Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWAITH, YNNI AC ARIAN. Golygwyd gan W. Huw R. Davies ac R. O. Roberts. Gwasg Prifysgol Cymru, 1983. Tt. 82. £ 4.95. Detholiad o drafodion economaidd a chymdeithasol Adran Economeg a Chymdeithaseg Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru yw'r gyfrol hon, sy'n cynnwys chwech o'r papurau a draddodwyd yn ystod y cyfnod 1974 i 1980. Gwnaethpwyd y gwaith golygyddol yn fanwl ac yn drwyadl, fel y byddem yn disgwyl oddi wrth Huw Davies ac R. O. Roberts. Fel mae'n digwydd, 'roedd cysgodion angau yn amlwg yn dyfnhau ar wyneb Huw y Uynedd, ond fe fu byw ddigon hir i weld y gyfrol drwy'r wasg a'i chyhoeddi cyn iddo farw ar ddydd calan. A mawr yw'r dyled a'r galar y teimla aelodau'r Adran hon o Urdd y Graddedigion ar 61 eu cymar annwyl a ffyddlon. 'Economeg yw'r hyn y mae economyddion yn ei wneud', medd W. Arthur Thomas, un o'r awduron, gan ddyfynnu diffiniad sy'n sgrech yn adlewyrchu safle ansefydlog economeg wrth iddo dyfu mor gyflym mewn sawl cyfeiriad, heb son am y dadlau chwerw ambell waith, uwchben gosodiadau canolog damcaniaeth y pwnc. Yn hyn o beth, mae Gwaith, Ynni ac Arian ei hun y esiampl ragorol o'r digwyddiadau hyn. Mae gan Lywydd Anrhydeddus yr Adran, sef Syr Goronwy Daniel, ddarn ar y cychwyn sy'n bwrw golwg dros y maes. Addas iawn oedd gosod ei araith yn gyntaf am ei fod wedi sefyll yn 61, fel pe bai, i'n hatgoffa am y problemau sylfaenol nad ant heibio. Yr hyn sydd ganddo yw'r anfarwol destun o brinder, yn ei-fwy neu lai-newydd wedd; cyflenwad ynni, a'r problemau sy'n codi i ddynoliaeth wrth addasu i sefyllfa newydd. Dehongliad diddorol, yn arbennig i rai o'i wrandawyr a'i ddarllenwyr sydd ar goll ymhlith cromlinau hafalgynnyrch i'r fath raddau nes bod perygl iddynt (i ni'n hytrach!) anghofio'r byd real sydd y tu 61 iddynt. Beth bynnag, nid oes unryw bosibilrwydd fod Cadwaladr Lewis, a draddododd araith ar 'Yr Amgylchfyd a Nod Cwmniau' am i ni anghofio'r byd real. Wedi brwydro'n hir ar faes gad diwydiant (yng nghatrawd yr I.C.I.) mae ei esboniad ynglyn a sut i fynd ati i gynllunio, a'r ystyriaethau sy'n codi, a bias mwg powdr gwn yn perthyn iddi, yn hytrach na gwynt olew llusern y myfyriwr proffesiynol. Ac mae hyn, wrth gwrs, fel y dylai fod. Mae'n amlwg hefyd, er iddo ysgrifennu ei ddarn pan oedd yn fyfyriwr graddedig, fod Iwan Brooks-Jones, yntau hefyd wedi casglu ei ffeithiau am Dwristiaeth yng Nghymru yn y maes. Trist yw darllen, er i Gymru godi'n ail o ran poblogrwydd fel cyrchfan wyliau i drigolion Prydain erbyn hyn, nad ydyw yn elwa allan o dwristiaeth i'r un raddfa a rhanbarthau eraill. Ar y math o wyliau sy'n boblogaidd y mae'r bai am hyn, wrth gwrs, y carafannau yn arbennig. Ac fe ddônt-rhai ohonynt beth bynnag-a hagrwch, a thramgwyddiadau mwy yn eu sgil; a thra saif cwrw, sglodion a bingo'n bennaf ar restr blaenoriaethau'r mwyafrif (fel mae'n debyg sy'n wir) nid oes gwell i'w ddisgwyl. Yn wyneb y ffeithiau hyn, anodd, fel y dywed awdur y darn, yw cyfiawnhau gosodiad Bwrdd Croeso Cymru y bu twristiaeth yn gymorth i atgyfnerthu, a phwysleisio ein nodweddion unigryw Gymreig.