Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

subject references, and that although Dr. Colyer includes a bibliography and a glossary of Welsh words and terms, he gives few other sources for the mass of information he cites. This information would have added to the academic usefulness of this interesting and well-produced book. J. H. BETTEY Bristol GRIFFITH JONES, LLANDDOWROR: ATHRO CENEDL. Gan Gwyn Davies. Gwasg Efengylaidd Cymru, 1984. Tt. 120. Rhaid i bawb a gar iaith ein gwlad ac a ymhyfryda yn ei hanes groesawu'n frwd lyfr newydd yn Gymraeg ar fywyd yr 'hen filwr dros Grist', Griffith Jones; yn enwedig llyfr mor gryno, bywiog a diffuant ag eiddo Mr. Gwyn Davies. Cyfeddyf ef ei hunan nad llyfr yn cynnwys ymchwil newydd manwl ar ei wron mohono yn gymaint a dehongliad o'r wybodaeth sydd ar gael eisoes a amcana'n bennaf at bwysleisio'r wedd grefyddol ar ei fywyd a'i waith. Thema ganolog y gyfrol, felly, yw mai un wedi'i aileni oedd Griffith Jones ac mai'i brif ysgogiad oedd ymegnio, gorff ac enaid, fel offeryn yn llaw Duw i ddwyn miloedd ar filoedd o'i gydwladwyr i'r unrhyw ymwybyddiaeth o ras achubol y Goruchaf allan o bwll eu hanwybodaeth a'u difrawder. Pwysleisir yn gyntaf ei allu fel pregethwr, er iddo weld yn fuan mai cateceisio rhagor pregethu oedd debycaf o achub eneidiau. Ond ar fyr dro canfu fod rhaid iddo ddysgu pobl i ddarllen os oedd cateceisio i fod yn effeithiol, a darparu ar eu cyfer ymhellach gyflenwad digonol o lyfrau da. Trafodir ei berthynas a noddwyr cyfoethog ac a'r SPCK ac asesir y rhesymau dros lwyddiant ei ysgolion a'r gwrthwynebiad a fu yn ei herbyn. Cloir y cyfan trwy fantoli cymeriad Jones fel dyn a natur ei gampau a'u harwyddocad. Gwaith o bietas yw'r llyfr; un a ysgrifennwyd gan awdur sydd yn Gristion didwyll ac ymroddedig eu hunan ac nad yw'n celu'i gydymdeimlad Uwyr a phrofiad ac agwedd Griffith Jones. Cyflea'n glir a diamryfusedd bortread cynnes, brwdfrydig a difeirniadaeth ohono. Fel datganiad o safbwynt yr awdur a gred yn gydwybodol mai gwas Duw oedd y gwr o Landdowror ac mai'r Hollalluog a fendithiodd ac a roes gynnydd ar ei lafur yn y winllan, y mae'n anodd gweld sut y gellir gwella llawer arno. Heb ddymuno ymddangos yn sinigaidd ni allwn lai na chodi rhai cwestiynau ynghylch y dehongliad a draddodir yma. Yn gyntaf tuedda'r awdur i dderbyn yr hen syniadau am gyflwr echrydus crefydd yng Nghymru ar ddechrau'r 18fed ganrif; ei bod hi'n wlad a ymdrybaeddai mewn pechod ac anwybodaeth, gyda chlerigaeth esgeulus, 'Sentars sychion' ac ati. Ac eto i gyd wrth esbonio llwyddiant yr ysgolion cylchynol sonia am 'ddyhead dwfn' am air Duw a godai o ganol y tywyllwch hwn. Os oedd Cymru mewn pydew mor ddudew, anodd-i mi, beth bynnag-yw cysoni hynny a'r awydd cyffredinol hwn am oleuni. Yr un mor anodd, hefyd yw deall sut y bu cymaint o'r offeiriaid esgeulus a'r ymneilltuwyr sych yn cydweithredu mor barod a Griffith Jones. Yn ail, esboniad yr awdur ar