Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

lwyddiant yr ysgolion ydyw sel Gristnogol Jones a bendith yr Arglwydd arno; ychydig iawn o sylw a roddir i gyflwr y gymdeithas y bu'n gweithio ynddi. Ond rhaid gofyn yn wylaidd, onid achos mwyaf llwyddiant Jones o'i gymharu a methiant llawer a fu o'i flaen oedd nid ei fod ef o reidrwydd yn well Griston na hwy ond ei fod ef yn deall yn anhraethol well na neb arall pa fath o ysgolion a fyddai'n taro i'r dim ar gyfer cyflwr cymdeithasol Cymru. Onid ef yn anad neb a welodd mor amhriodol oedd ysgolion sefydlog Seisnig, o'r teip confensiynol mewn trefi, i wlad dlawd fugeiliol fel Cymru, a'i phoblogaeth uniaith Gymraeg a'r mwyafrif ohonynt yn rhy dlawd i allu fforddio anfon eu plant i ysgolion sefydlog trwy'r flwyddyn? O'r braidd, ychwaith, fod yr awdur yn rhoi digon o sylw at amcanion cymdeithasol Jones wrth drefnu'i ysgolion yn ogystal a'r rhai crefyddol. Hefyd, meglir Mr. Davies mewn cryn helbul weithiau wrth drafod cysylltiadau Jones a'r Methodistiaid cynnar. Gan ei fod yn cydymeimlo mor ddwys a'r naill fel y Hall anodd iddo benderfynu pwy oedd yn iawn pan ddaeth yn ddadl ac yn rhwyg rhyngddynt; ond safbwynt Jones fel arfer a gaiff ei amddiffyn. A daw hyn a ni at wendid pennaf yr astudiaeth. Tybed a oedd Griffith Jones yn wr lawn mor berffaith a difrycheulyd ag y'i darlunir yma? Nid oes neb yn amau'i athrylith na'i ymroddiad; ni wedir ychwaith ei gyfraniad amhrisiadwy i grefydd, iaith, addysg a diwylliant Cymru. Ond nid yw hynny'r un a theimlo fod yn rhaid ei warchod rhag pob beirniadaeth. Credodd mwy nag un hanesydd, a minnau yn eu plith, fod rhyw gymaint o sail yn yr hyn a ddywedodd ei wrthwynebwyr amdano, er nad ydyw hynny'n golygu ein bod yn derbyn popeth a honasant o bell ffordd. Y mae tuedd gref yn y llyfr hwn i'w ddyrchafu'n sant tu hwnt i bob beirniadaeth. Buasai Jones yn fwy credadwy, ac yn fwy derbyniol hwyrach, pe cydnabyddid yn fwy agored rhai o'r brychau bach dynol a'i nodweddai hefyd. Creadur meidrol fel y gorau o'r ddynolryw, wedi'r cyfan, ac nid angel oedd Griffith Jones. (This is a clear, lively and concise biography of Griffith Jones, Llanddowror, written from the standpoint of a committed Christian believer, deeply in sympathy with Jones's own convictions. It does him full justice in its treatment of him as preacher, catechizer, organizer of schools and supplier of literature. It carries much less conviction in its tendency to over-emphasize the backwardness of pre-Methodist Wales, the inadequacy of its examination of the social context in which the schools were established and its proneness to turn Jones into something of a plaster saint.) GLANMOR WILLIAMS Swansea ARISTOCRATIC CENTURY: THE PEERAGE OF EIGHTEENTH-CENTURY ENGLAND. By John Cannon. Cambridge University Press, 1984. Pp. x, 193. £ 19.50. In 1982, John Cannon was asked to give the Wiles Lectures in Belfast, and he took this opportunity of making what is perhaps his most important contribution