Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gyflwyno trwy lygaid teulu dychmygol o'n hoes ni. Mae cwestiynau Robert Morris, fel arfer, yn rhai treiddgar, e.e. 'Cymharwch y disgrifiad o derfysg Caerfyrddin o Seren Gomer a'r adroddiad o The Welshman Pa ffeithiau yn y ddau ddisgrifiad sy'n wahanol?' Serch hynny mae iaith y dyfyniadau dan sylw'n gwneud y dasg a osodwyd yn un anodd i lawer o ddisgyblion, hen broblem y mae'r awdur, yn gyffredinol, yn ymwybodol iawn ohoni. Roedd esgyniad Lenin a'r Bolsiefigiaid i rym yn Rwsia ym 1917 yn un o ddigwyddiadau allweddol yr ugeinfed ganrif. Cyfleu cyffro ac arwyddocad y cyfnod hwnnw trwy gyfrwng y Gymraeg oedd yr her a osododd Eiriona Bebb iddi'i hun yn Chwyldro yn Rwsia. Rhannwyd y gwaith yn bedair ar ddeg o adrannau byrion, rhyw wyth ohonynt yn ymwneud ag achosion y chwyldro a'r gweddill yn ymdrin a digwyddiadau cymhleth 1917 a chanlyniadau hynny. Dewiswyd y dystiolaeth yn ofalus, yn y rhan gyntaf yn enwedig, i gyfleu prif nodweddion y cyfnod. Tasg tipyn anoddach yw esbonio'r dryswch a welwyd yn Rwsia am rhai blynyddoedd wedi i'r Tsar ymddiswyddo ym mis Mawrth 1917. Os yw'r disgyblion i wneud unrhyw synnwyr o'r anhrefn hwnnw, rhaid roi sylw digonol i rai cerrig milltir amlwg, megis taith Lenin o'r Swistir, cwymp y Llywodraeth Dros Dro, chwalu'r Cynulliad Cyfansoddol a gwrthryfel morwyr Kronstadt. Nid yw'r ymdriniaeth o'r testunau hyn o bosibl yn cyfarfod ag anghenion dosbarthiadau arholiad ond annheg fyddai beirniadu'r llyfr ar sail hynny'n unig. Gellir anghytuno a'r sylw a roddwyd i rai agweddau ond llwyddodd Miss Bebb i dywys y darllenydd trwy un o'r cyfnodau mwyaf dyrys a dadleuol yn hanes yr ugeinfed ganrif. Cyflwyniad i hanes yr Undeb Sofietaidd er 1924 a welir yn Rwsia wedi'r Chwyldro gan yr un awdur. Da oedd gweld mai trefn thematig o fewn patrwm cronolegol a fabwysiadwyd y tro hwn. Ar ddechrau'r llyfr rhoddir braslun o'r prif ddigwyddiadau o ddyddiau Stalin hyd esgyniad Gorbachev, yna defnyddir penawdau fel 'Ffermydd Cyfunol', 'Grym ac Arswyd', 'Rhyfel', a 'Safonau Byw' i gyfleu rhai o nodweddion y cyfnodau dan sylw. Mewn llyfr a fwriadwyd ar gyfer disgyblion iau, symleiddiwyd yr elfennau ideolegol a rhoddwyd sylw i unigolion fel Keriv, Stakhanov, Solzhenitsyn a Sakharov. Seiliwyd y cwbl ar ddetholiad eang o ffynonellau ac, yn y cyswllt hwn, rhaid canmol ansawdd rhagorol y ffotograffau a'r papurau newydd a atgynhyrchwyd. Dyma lyfr sy'n cynnwys digon o ddefnydd symbylu ar gyfer y wers hanes ac amrywiaeth o sefyllfaoedd dysgu yn yr ysgol uwchradd. Yn ystod y deugain mlynedd ers sefydlu'r Cenhedloedd Unedig, aeth poblogrwydd y gyfundrefn gydwladol fel maes astudiaeth trwy gyfnodau o lanw a thrai. Mae'r Cenhedloedd Unedig gan John Roberts yn torri tir newydd ym myd gwerslyfrau Cymraeg fel nifer o deitlau eraill yn y gyfres y cyfeiriwyd atynt eisoes. Mewn chwe adran mae'r awdur yn ymdrin a sefydlu'r gyfundrefn, gwaith y prif asiantaethau a phroblemau cadw'r heddwch. Rhoddir sylw amlwg i'r Trydydd Byd yn gyffredinol a darparwyd astudiaethau enghreifftiol ar Kashmir, y Dwyrain Canol, Korea a Zaire. Cawn ein hatgoffa am gysylltiadau Cymru a'r Cenhedloedd Unedig, ac, unwaith eto, mae safon uchel y ffotograffau'n ychwanegu at apel y llyfr.