Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COF CENEDL, IV. Ysgrifau ar Hanes Cymru. Golygydd, Geraint H. Jenkins. Gwasg Gomer, Llandysul. 1989. Pp. 178. £ 4.25. Un o nodweddion mwyaf deniadol y gyfres Cof Cenedol, a olygir gan Geraint H. Jenkins, yw'r amrywiaeth yn y pynciau a drafodir gan y gwahanol gyfranwyr. Nid yw'r chwech ysgrif yn y gyfrol hon, rhagor na'r ysgrifau yn y tair cyfrol a gyhoeddwyd eisoes, yn dilyn thema arbennig nac yn canolbwyntio ar un cyfnod yn unig yn ein hanes. Yn hytrach, ceir yma gasgliad o erthyglau sydd, yn anad dim arall, yn adlewyrchu diddordebau arbennig a meysydd ymchwil yr awduron. Fel yn y tair cyfrol arall, ceir yma hefyd nifer o luniau perthnasol a llyfryddiaeth fer ar ddiwedd pob pennod. Yn ei ystyriaeth o'r berthynas rhwng y tywysog Llywelyn ap Gruffudd a'r brenin mae J. Beverley Smith yn dehongli'r cefndir gan nodi mai pwysigrwydd y cyfnod oedd amlygu'r gyd-berthynas rhwng "y cymhellion deallusol sy'n mynegi eu hunain mewn ymwybod hanesyddol a gwyddor cyfraith ac yr ymgais ymarferol i sicrhau sefydliadau gwleidyddol a roddai i'r genedl amodau undod a pharhad". Mewn cyfraniad ysgolheigaidd a chaboledig ar William Salesbury mae G. Aled Williams yn cloriannu'n fanwl gyfraniad "propagandydd a hyrwyddwr mwyaf dyfal a diflino y syniad o gael Beibl Cymraeg." Ymdrinir a maes lletach yn ysgrif Eurwyn Wiliam ar gartref Cymry rhwng 1200 a 1900, gyda'r awdur yn nodi fel y bu i adeiladwaith adlewyrchu nodweddion amlycaf cymdeithas ym mhob oes. Yng nghyfraniad W. Gareth Evans fe amlygir fel y bu i werthhoedd arbennig cyfnod Victoria effeithio ar dwf addysg merched yng Nghymru. Ymdrin a phwnc dyrys sut y dylid denongli hanes y mae D. Tecwyn Lloyd yn ei ysgrif ddiddorol ar "Chwilio am Gymru". Mae'n canolbwyntio ei sylwadau ar y modd y bu i O. M. Edwards, Emrys ap Iwan a Saunders Lewis, wrth ymboeni am gyflwr Cymru eu dydd, ddelweddu'r gorffennol a hyrwyddo'r gred fod "yn rhaid i hanes a thraddodiddau cenedl fod yn ganllaw i'w ffyniant yn y dyfodol". Yn anorfod y mae'r drafodaeth a geir yma yn pwysleisio mor hawdd, yn arbennig yng ngolau llachar ideoleg, ydyw anwybyddu rhai a gorbrisio nodweddion eraill yn ein hanes. Ar yr un pryd, mae'n annog y darllenydd i ystyried ai etifeddu traddodiadau a wnawn ynteu eu cynhyrchu. Wrth drafod twf y gydwybod gymdeithasol yng Nghymru rhwng y ddau ryfel mae John Davies nid yn unig yn asesu yn feistrolgar gyfraniad unigolion ond hefyd, yn arbennig yng nghyswllt tai a iechyd, yn dangos fel y bu i Gymru ddiwydiannol rymuso datblygiad gwasanaethau cymdeithasol yn y cyfnod. Nid oes unrhyw amheuaeth na fydd yr ysgrifau gloyw yn y gyfrol hon yn ennyn diddordeb a bod y gyfrol ei hun yn cyfrannu atnod y golygydd i "rymuso ymwybyddiaeth y Cymru Cymraeg o'u tras a'u hetifeddiaeth". Wrth wneud hynny, mae hefyd yn tanlinellu anodded yw dehongli'r gorffennol yn gytbwys. [This volume of essays on Welsh history, like the three volumes in the series that have already been published, reflects essentially the research interests of the various contributors. J. B. Smith writes on Llywelyn ap Gruffudd and his relationship with Edward I; G. A. Williams discusses the background to William Salesbury's