Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

REVIEWS HANES CYMRU. Gan John Davies. Allen Lane: The Penguin Press, 1990. Tt. xiv, 710. £ 30.00. Rhaid wrth hanesydd dewr, disglair a dysgedig i fentro ysgrifennu hanes Cymru o'r cychwyniadau cynhanesyddol cyntaf i lawr at y 1980au diweddar o fewn cloriau'r un gyfrol. Croeso arbennig o frwd felly i'r ymgais ryfeddol o lwyddiannus hon a wnaed gan John Davies, a chanmoliaeth fyddarol iddo am ei orchest. Pob clod yn ogystal i gwmni Allen Lane a Llyfrau Penguin am fod mor barod i ymgymryd a chyhoeddi llyfr mor swmpus o ryw chwarter miliwn o eiriau yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn eu hanes. Ac nid llyfr hirfaith mohono'n unig ond llyfr wedi'i brintio'n hardd a'i rwymo'n chwaethus, ac o gofio'i faint a chost llyfrau yn y byd sy ohoni mae'n fargen. Teilynga Dr. Davies a'i gyhoeddwyr ein diolchiadau gwresocaf am eu menter. Eglur ddigon fod 61 pori eang a deallus ar ran yr awdur mewn meysydd sydd, rhai ohonynt, megis archaeoleg a hanes yr Oesoedd Cynnar a Chanol, yn bell oddi wrth ei briod ddiddordebau arferol ef yng nghyfnodau diweddar hanes Cymru. Trueni na fuasai modd iddo gynnwys troednodiadau o bryd i'w gilydd gan nad yw'n hawdd bob amser i ddirnad o ble yn union y tynnodd ei ddeunydd, ond rhaid maddau iddo gan fod y gyfrol eisoes mor faith a manwl Rhannodd ei lyfr yn ddeg pennod, yn ymdrin a'r dechreuadau cynhanesyddol; Cymru a Rhufain; Cymru 400-800; 800-1282; 1282-1530; 1530-1770; 1770-1850; 1850-1914; 1914-39; a'r cyfnod oddi ar 1939. Fel y gwelir, y mae a wnelo chwech ohonynt a'r oesoedd cyn 1770 a phedair a'r ddwy ganrif ar 61 hynny. Amheuthun oedd gweld hanesydd o Gymro yn rhoi cymaint o sylw, o ran gofod, i'r cyfnod ar 61 y Chwyldro Diwydiannol ag i'r holl gyfnodau cyn hynny. Peth eithriadol o brin yw gweld neb yn ddigon doeth i rannu'i astudiaeth o'r maes fel hyn; er nad oes yr un amheuaeth gennyf nad hynny'n sy'n gwbl briodol. Ym mharagraffau agoriadol Ilawer o'i benodau gesyd Dr. Davies yr 'agenda' o'n blaenau, fel petai, trwy roi crynodeb hynod gynhwysfawr o'r nodweddion a wahaniaetha'r cyfnod oddi wrth yr un a'i blaenorodd ac weithiau yr un a'i dilynodd hefyd. Enghraifft neilltuol rymus yw ei ddarn rhagarweiniol i'r seithfed bennod sy'n agor ei ymdriniaeth a'r cyfnod diweddar o 1770 ymlaen. Tybed, fodd bynnag, nad oedd ei benodau'n rhy hir? Anodd iawn yw i'r darllenydd gymathu'n gysurus holl gynnwys pennod sy'n ymestyn dros ryw gant o dudalennau heb doriad; buasai'n hwylusach pe bai'r penodau'n fyrrach ac wedi'u crynhoi at ei gilydd mewn adrannau a fyddai'n cyfateb i'r penodau unigol fel y'u ceir ganddo ar hyn o bryd. Mantais arall, o bosibl, fuasai dosrannu'r penodau a rhoi is- deitlau fel canllawiau i'r darllenydd. Ond dichon mai myfi sydd yn mynd yn hen ac yn ddiffygiol o'r egni ymenyddol sydd rhaid wrtho i ddyfalbarhau a darllen penodau maith. Rhaid imi gyfaddef ymhellach na'm hargyhoeddwyd i fod yr awdur wedi bod yn gwbl lwyddiannus wrth roi 'trioedd' o enwau lleoedd fel teitlau i'r penodau. Roedd 'Aberffraw, Dinefwr a Mathrafal' yn gweddu'n iawn fel teitl i'r bedwaredd bennod, Cymru rhwng 800 a 1282, ond 'roeddwn i'n fwy amheus o lawer parthed