Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

tan tua 1650. Tybed faint o'n llawysgrifau canoloesol a ddangosai nodweddion cyffelyb pe datodid eu rhwymiadau? Dyma godi cwr y lien ychydig ymhellach ar gyfrinachau'r Oesoedd Canol-a cherydd i'r rhai hynny ohonom sydd, er ein gwaethaf, yn ei chael hi'n anodd 'gweld' IIawysgr,fau'r cyfnod canol heb eu rhwymiadau presennol. Roedd datod yr hen rwymiad hefyd yn caniatau gosod y dail yn wastad a thynnu lluniau lliw ohonynt ar gyfer y testun ffacsimile a gyhoeddir yma. Mae'r atgynhyrchiad o'r safon uchaf, ac eglurder y testun a'r marginalia, a hyd yn oed y pigiadau a'r tyllau rhwymo ar lawer o'r dail, yn glod i adran ffotograffeg y Llyfrgell Genedlaethol. Nid yw'r lliw, ysywaeth, yn gwneud cyfiawnder ag ansawdd y gwyrddlas sydd mor nodweddiadol o lawysgrifau Cymreig y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond cyfeddyf y golygydd ei hun y gwendid hwn. Wedi'r ffacsimile, ailgyhoeddir adysgrif wych Gwenogvryn Evans o'r testun. Er bod ysgolheigion diweddar wedi amodi cryn dipyn ar y dyddiadau a gynigiodd ar gyfer amryw o'n Ilawysgrifau cynnar, prawf prinder y Corrigenda a atodir i'w adysgrif fod Gwenogvryn Evans yn gopiydd rhagorol. Bu cryn ddadeni mewn astudiaethau o'r 'Gododdin' yn ystod yr wythdegau, a gwelwyd cyhoeddi sawl cyfraniad pwysig ar y maes erbyn diwedd y degawd-y pwysicaf o'r rhain yw dwy gyfrol wahanol iawn i'w gilydd: Early Welsh Poetry: Studies in the Book of Aneirin, sef casgliad o bapurau herfeiddiol dan olygyddiaeth Dr. Brynley F. Roberts, ac Aneirin: Y Gododdin, sef testun mewn orgraff ddiweddar a chyfieithiad Saesneg ynghyd a rhagymadrodd clasurol gan yr Athro A. O. H. Jarman. Gellir yn deg ystyried cyhoeddi'r testun ffacsimile hwn gyda rhagymadrodd Mr. Daniel Huws yn goron deilwng ar weithgarwch y blynyddoedd diwethaf. [This volume was made possible by essential restoration work on the thirteenth- century Book of Aneirin which contains the earliest extant copy of the 'Gododdin', attributed to the sixth-century eponymous poet. In an authoritative introduction included in both English and Welsh versions, Daniel Huws examines in detail the physical aspects of this manuscript. The full-colour facsimile text, reproduced to the highest standards, is followed by a reprint of Gwenogvryn Evans's excellent transcript. This volume is a delight to hand and eye, and provides a fitting climax to the recent surge of publications dealing with the earliest Welsh poetry.] CHRISTINE JAMES Swansea THE WELSH LAWS. By T. M. Charles-Edwards. University of Wales Press, Cardiff, on behalf of the Welsh Arts Council, 1989. Pp. 105. £ 3.50. Surviving in some eighty manuscripts, of which half were copied before c.1500, the Welsh lawbooks constitute a substantial and distinctive body of prose writing in medieval Wales. Although their study has never been-and is never likely to be-the height of academic fashion, our understanding of these texts has advanced considerably in recent years, thanks in particular to the work of scholars meeting in the Seminars on Welsh Law organized under the aegis of the Board of Celtic Studies.