Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Labour Secretary of State from 1940-45, founded the North of Scotland Hydro- Electric Board and the Herring Industry Board. It is harder to see what he did for Glasgow. William Power, writing in 1937 and quoted by Harvie, gets it exactly right: 'Between an unreal Drumtochty and a too real St Rollox Scotland seemed to have vanished.' The unreal Drumtochty was still presented to schoolchildren in the 1960s: An English schoolboy at a Scottish School: the unending, sullen, sottish Roll of blood and bigotry That passes for a History: For Scotland's ills are England's guilt How Cumberland proscribed the kilt How Bruce endured and Wallace bled (Scotch heroes are a long time dead). Perhaps that is why they took so long to do anything about the real St. Rollox, Oxford CANU'R PwLL A'R PULPUD. Gan Huw Walters. Cyhoeddiadau Barddas, Bala, 1987. Tt. 397. £ 11.95 Cyflwyna'r awdur y gwaith hwn fel 'portread o'r diwylliant barddol Cymraeg yn Nyffryn Aman', ac y mae'r defnydd sylweddol sy'n cael ei grynhoi a'i ddehongli yn dystiolaeth bwysig wrth olrhain sefydlu yn y fro hon, o tua 1860 ymlaen, gymdeithas ddiwydiannol Gymraeg. Efallai i dwf y diwydiannau a dylifiad y gweithwyr fod yn fwy graddol nag y buont yn rhai o gymoedd y de-ddwyrain, ond 'roedd datblygiad pentrefi Dyffryn Aman, hwythau, yn destun rhyfeddod. Mewn sawl achos penderfynnodd y trigolion eu hunain ar enwau newydd i'r trefedigaethau, a bathwyd Brynaman, Glanaman ac Ammanford yr enwau newydd sbon. Arhosodd y pentrefi poblog hyn yn Gymraeg eu hiaith, gan lwyddo i gorffori'r ymfudwyr di-Gymraeg yn aelodau cyflawn yn niwylliant y fro, hyd yn oed drwy'r cyfnod ar ddechrau'r ganrif hon a brofodd mor dyngedfennol yn hanes yr iaith mewn rhai ardaloedd yn nwyrain Morgannwg. Ond sylwa'r awdur ar dystiolaeth werthfawr i'r ymwybod a dyfodol y Gymraeg, ac y mae'r cyfeiriad at weithgarwch Rhys J. Huws yn ystod ei weinidogaeth yng Nglanaman ar ddiwedd ei yrfa yn arbennig o bwysig. Cynhysgaeth lenyddol y pentrefi diwydiannol hyn yw pwnc yr awdur, ond, ynghyd a phriod orchwyl y gyfrol, ceir arweiniad gwerthfawr i'r amryfal gyfryngau a sicrhaodd bod y lliaws a ddaeth ynghyd mor ddisymwth yn cael deunydd cymdogaeth yn y fro ddiwydiannol. Yr oedd, wrth reswm, sawl cyfrwng: y cynulleidfaoedd ar hyd y dyffryn o Siloam a Gibea i Bethany a Gellimanwydd; y llyfrgelloedd a sefydlwyd mewn sawl man; ysbyty John Whitworth, from Poor Butterflies IAIN McLEAN