Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ffynonellau eraill. Enghraifft o hyn yw'r ddwy frwydr, Cerrig Morllwch a Buarth Cadfan, y sonnir amdanynt yn awdl gyntaf y Prydydd i Ddafydd ab Owain Gwynedd; hwn yw'r unig gyfeiriad at y brwydrau hyn. Y mae hanes Gwynedd rhwng marw Owain Gwynedd a thwf Llywelyn Fawr yn dywyll iawn ac anaml y mae canu'r beirdd yn cynnig llawer o wybodaeth newydd y gellir ei rhoi yn bendant yn ei chyd-destun hanesyddol. Ar y Ilaw arall, gall y canu i Lywelyn Fawr gadarnhau ac ychwanegu at y dystiolaeth sydd ar gael mewn ffynonellau eraill ac y mae Awdl yr Haearn Twym yn codi cwestiynau eithaf ddiddorol am y drefn gyfreithiol yng Ngwynedd ym mlynyddoedd cynnar y drydedd ganrif ar ddeg wrth grybwyll bodolaeth y diheurbrawf cyfreithiol. Y mae'r gyfrol hon yn cynnwys deg ar hugain o gerddi; y mae'n bur debyg fod y Prydydd wedi canu lawer mwy sydd wedi diflannu. Argreffir pob cerdd teirgwaith, sef yn ei ffurf wreiddiol, mewn orgraff fodern ac wedi ei throsi i Gymraeg ddiweddar. Y mae hyn yn gymwynas mawr i lawer o ddarllenwyr sy'n teimlo'n llai na hyderus wrth wynebu iaith gymhleth a rhethregol Beirdd y Tywysogion. Y mae'r rhagymadrodd i bob cerdd yn trafod y cefndir a'r mydr, gyda sterna sy'n egluro perthynas y gwahanol lawysgrifau ac y mae'r nodiadau testunol a golygyddol yn dilyn pob cerdd. 0 safbwynt yr hanesydd, y mae'r testun hwn yn hawdd iawn i'w ddefnyddio. Y mae canu Prydydd y Moch yn adlewyrchu un o'r cyfnodau mwyaf diddorol a mwyaf tywyll yn ein hanes. Gwelodd y Prydydd y frwydr am rym yng Ngwynedd ar 61 marw Owain Gwynedd yn 1170 a chanodd i'w feibion Dafydd a Rhodri. Gwelodd hefyd flynyddoedd cynnar Llywelyn Fawr pan osodwyd seiliau Gwynedd tywysogion mawr y drydedd ganrif ar ddeg, a chlodforodd Lywelyn yn ei anterth. Yr oed bardd llys yn byw yng nghanol holl fwrlwm gwleidyddol ei oes; ef oedd cydwybod y tywysog a'i areithydd cyhoeddus yn ogystal a'i fardd. Mewn un llinell enwog y mae'r Prydydd yn crynhoi'r berthynas: 'Mi Lywarch, tithau Lywelyn' ac yn y Canu Mawr y mae'n cymharu ei hun a'r Eliffant, sef corn enwog Rolant, yn canu clod ei dywysog. Dyma gynnyrch cyntaf rhaglen golygu a chyhoeddi un o gyrff mawr o farddoniaeth Gymraeg; y mae gwaith holl feirdd eraill yr oes am ymddangos yn y dyfodol agos. Y mae tim y ddau athro yn cynnwys nifer o ysgolheigion ifainc sydd wedi ennill eu plwyf wrth gyfrannu at y cynllun; y mae safon eu gwaith yn profi y bydd dyfodol ysgolheictod Cymreig a Chymraeg mewn dwylo diogel. Diolch i'w gwaith, y mae rhan bwysig o'n hetifeddiaeth farddonol wedi cael sylw teilwng o'r diwedd. [This edition of the work of the poet Llywarch ap Llywelyn or Prydydd y Moch is the first to appear as a result of the first research programme of the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies, which has concentrated on editing and publishing all the work of the twelfth- and thirteenth-century court poets. The availability of this important body of poetry will be of great value to historians of the period.] A. D. CARR Bangor