Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r gerdd 'Hen Wr' a ddaeth i'r fei yn rhy hwyr i'w henwi yn y 'Cynnwys' hyd yn oed. Diweddarwyd y nodiadau buddiol ar ddiwedd y gyfrol. Gellid ychwanegu ambell gyfeiriad atynt, megis erthygl Branwen Jarvis, 'Saunders Lewis a Mabon' a ymddangosodd yn Taliesin, cyf. 68, Tachwedd 1989 (lie trafodir y cywydd 'Emmaws' yn ogystal a'r soned 'Mabon'), a hefyd ysgrif fer yr un awdur ar farddoniaeth Saunders Lewis yn Saunders Lewis: Agweddau ar ei Fywyd a'i Waith (gol. Gwerfyl Pierce Jones) (Llandysul, 1991). Gellid nodi bod trafodaethau R. M. Jones ar 'Difiau Dyrchafael' a 'Mabon' ar gael yn ei gyfrol Llenyddiaeth Gymraeg 1936-1972 (Llandybie, 1975). Tybiaf fod trafodaeth R. M. Jones ar 'Gweddi'r Terfyn' yn Lien Cymru a Chrefydd (Llandybie, 1977) yn werth ei nodi hefyd, yn ogystal ag un Aneirin Talfan Davies yn Barn, rhif 134 (Rhagfyr 1973). Nodwyd ymhle yr ymddangosodd y cerddi gyntaf, a chyfeirir hefyd at ffynonellau llawysgrifol lie bo hynny'n berthnasol. Darparwyd canllaw ardderchog ar gyfer y sawl a fynn efrydu'r farddoniaeth ymhellach. Dyma batrwm o olygu cyfewin fanwl ond anymwthgar. Ni sylwais ond ar ambell wall argraffu: 'ddoed a gaed' yn lie 'ddoe a gaed' ('Y Gelain', t. 13), 'a'i droi' yn lie 'a'i droi'n ('Puraf a Thisbe', t. 34), a thybed na ddylid darllen 'cân a'th fwyall rybudd dwys' yn 'Rhag y Purdan' (t. 8) (yn hytrach nag 'a'th fwyall', er mai dyna a geir yn Byd a Betws)? 23 yw rhif tudalen 'Mair Fadlen' (nid 24 fel y nodir yn y 'Nodiadau'). Honnwyd lawer tro mai tenau oedd cynnyrch barddol Saunders Lewis. 'The total number [o'i gerddi] is about thirty', meddai Gwyn Thomas yn 1973, ond ceir dros hanner cant yn y casgliad hwn, a chofier hefyd fod rhannau o weithiau eraill Saunders Lewis wedi ennill statws cerddi (megis araith y winllan yn Buchedd Garmon) yn sgil cael eu hadrodd yn gyhoeddus, a bod Siwan wedi cael ei galw'n gerdd gan yr awdur ei hun. Fel y mae rhai wedi mynnu mai dramodydd ydoedd yn anad dim, felly hefyd yr honnodd eraill mai bardd ydoedd yn bennaf oil. Yn sicr mae amrywiaeth ei gerddi a chyfoeth eu cyfeiriadaeth yn drawiadol o fewn cwmpas mor fychan. Ceir yma awdlau mawl, cywyddau marwnad a dychan ac englynion, telynegion odledig a sonedau, a cherddi vers libre amryfath-swrealaidd, deifiol ac ingol. Ffrwynir y cyfan gan grefft lem ei disgyblaeth, heb ladd y llawenydd sy'n dawnsio i wyneb y cerddi natur, na'r miniogrwydd tynnu-gwaed sydd yng nghleddyf ei ddychan, na'r ias sobreiddiol sydd yn llorio dyn yn y cerddi myfyrdod. Bydd rhai darllenwyr yn rhoi'r argraff mai ffrwyth ewyllys yn hytrach na greddf oedd barddoni i Saunders Lewis, pel petai modd didoli'r ddau. I Gwenallt yn 1950, 'bardd ideolegaidd; bardd rhesymol a bardd deallusaidd ydoedd'. Wrth gwrs, yr oedd ef ei hun wedi gwrth-ddweud Mallarme yn ei 'Ragair' i Byd a Betws trwy groesawu beirniadaeth ar syniadau'r cerddi. Ac mae'n hollol amlwg eu bod wedi'u llunio o safbwynt Catholig a chenedlaethol. Gallesid tybio felly y byddent yn anhygyrch i'r darllenydd o anffyddiwr sosialaidd. Ond go brin ein bod yn mynd at gelfyddyd yn unig er mwyn cael adlewyrchiad o'n safbwyntiau ni'n hunain. Os felly byddai canu rhyfelgar Taliesin yn anathema i heddychwr modern, a Chadwyn Bod hierarchaidd y Cywyddwyr yn dan ar groen y rhai sy'n credu mewn cydraddoldeb.