Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

specialized in its requirements. There was a considerable reaction against Gothic forms. Some well-established grammar schools-Bala, Abergavenny, Cowbridge, Swansea, Brecon, Monmouth and Cardigan-were rebuilt in the mid-nineteenth century whilst Llandovery College, the Howell Schools at Llandaff and Denbigh and Dr. Williams School, Dolgellau, were new, middle-class schools designed by leading architects of the period. The educational importance for boys and girls of private, non- endowed schools is underlined. Only a few were located in purpose-built establishments. It is shown that the inclusion/exclusion of some endowed schools from the county schemes framed to implement the Welsh Intermediate Education Act, 1889, was determined by the physical condition of the buildings. The establishment of a network of over ninety, mainly small, intermediate schools, followed a competition for architects in 1890 to submit model plans for the new type of school required by the legislation of 1889. Architectural design had to accommodate perceived pedagogical and curricular needs, as well as financial constraints. The sixty plates, as well as numerous diagrams and plans and detailed footnotes and bibliography of this very reasonably priced volume add considerably to the attraction of a social and architectural history that merits a wide audience. W. GARETH EVANS Aberystwyth OES Y BYD I'R IAITH GYMRAEG. Gan Sian Rhiannon Williams. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1992. Tt. 192. £ 17.50. Ers pa bryd a phaham y bu'r iaith Gymraeg farw fel cyfrwng cymdeithasol i fwyafrif poblogaeth Sir Fynwy-rhai canrifoedd ynteu can mlynedd yn 61? Pe baech chi'n gofyn y cwestiwn hwn i bobl ddysgedig y sir heddiw (a Chymru gyfan am wn i), byddai mwyafrif pobl Gwent yn fy nhyb i yn honni y bu ar ben ar y Gymraeg fel cyfrwng cymdeithasol (hyd yn oed yn rhan orllewinol yr hen Sir Fynwy) ers rhyw gannoedd o flynyddoedd. Wrth gwrs gwyddai rhai i'r iaith gael ei defnyddio mewn dyrnaid o gapeli hyd at a thu hwnt i ddadeni sefydlu ysgolion Cymraeg diweddar y Sir. Mae'r gyfrol wych hon yn ateb y cwestiynau hyn mewn ffordd sy'n hynod o ddifyr ac yn ysgytwol iawn. Mae'n dwyn i'r amlwg blethiad cymhleth yr amryfal resymau dros dranc yr iaith yn Sir Fynwy, ac yn anad dim, yn dangos pa mor ddiweddar oedd hyn o gymharu ag argraff llawer o bobl. Ffrwyth ymchwil ar gyfer doethuriaeth yw'r astudiaeth hon, ond yn wahanol i rai llyfrau tebyg, mae hwn wedi ei ysgrifennu mewn dull deniadol a chyffrous. Dyma gyfrol sy'n seiliedig ar ysgolheictod o'r radd flaenaf, ond heb grwydro i diroedd anialwch academaidd. Mae'n cyflwyno tystiolaeth am yr iaith yng Ngwent yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o bob cyfeiriad ac ar bob agwedd o'r gymdeithas, ac mae'r dadansoddiad yn drylwyr wrthrychol. Credaf fod hwn yn waith pwysig; yn gyntaf i rai fel minnau sydd a"u gwreiddiau yn yr union ardal ddiwydiannol yn Sir Fynwy, mae cynnwys y llyfr hwn yn llenwi bwlch yn etifeddiaeth dyn. Mae yn wir agoriad llygad i ddysgu pa mor gryf a chyfoethog oedd y Gymraeg yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf ym mhob agwedd ar gymdeithas,