Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TORF ARDDERCHOG; TEITHIAU CRISTNOGOL TRWY GYMRU Cyfrol 1: Ceredigion a Phenfro. Gan John Aaron. Gwasg Efengylaidd Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, 1992 Tt. 240. £ 7.95. Yn y gyfrol hon, mae Dr John Aaron yn ein tywys ar wyth o deithiau yn siroedd Ceredigion a Phenfro gan ddangos inni leoedd o bwys yn hanes crefydd. 0 ran amser, mae'r rhychwant yn eang-cyfeirir at y seintiau Celtaidd, at Gerallt Gymro ac at gyfieithwyr Testament Newydd 1567-ond ar Brotestaniaeth efengylaidd y tair canrif ddiwethaf y mae'r pwyslais. Cyflwynir y cwbl mewn arddull syber a gloyw. Ceir nifer o luniau (por- treadau gan mwyaf) a bras-fapiau defnyddiol, ynghyd a mynegai o bobl ac o leoedd. Mae'r ardaloedd yr ymwelir a hwy'n amrywio'n fawr o ran eu naws a'u traddodiad enwadol. Nid oes gan yr awdur gyfle i olrhain yr holl ddylanwadau cymdeithasol ond ceir ganddo sawl sylw diddorol wrth fynd heibio. Prin, meddir, oedd dylanwad tref Aberystwyth ar fywyd Cymru cyn y ganrif ddiwethaf: ac yn 61 Joshua Thomas ystyrid Aberystwyth gynt 'yn He peryglus i ddyn crefyddol i fyned trwyddo'. Wrth deithio, sylwir ar liw enwadol y broydd: nerth Methodistiaeth Galfinaidd yng ngogledd a chanolbarth Ceredigion; Undodiaeth y 'smotyn du'; cryfder y Bedyddwyr a'r Annibynwyr yn Sir Benfro-y naill ddylanwad yn deillio o Rydwilym a'r Hall o Henllan. (Dyfynnir hefyd sylw R. T. Jenkins fod Sir Benfro, fel Athen gynt, yn chwannog i groesawu 'crefyddau newyddion'.) Ni bu hanes yr enwadau heb wrthdaro, a sonnir am rai o'r dadleuon diwinyddol rhwng Calfin ac Armin. Fel y sylwa'r awdur, nid sel genhadol yn unig sy'n esbonio'r cynnydd a gaed yn nifer yr eglwysi Ymneilltuol: yn ami, anghytuno diwinyddol ac ymwahanu a barodd sefydlu achosion newydd. A bellach, mewn llawer man, rhaid cofnodi edwino. Er mai teithiau a geir yma, prin yw'r son am adeiladau a golygfeydd: nid crwydryn tebyg i John Betjeman yw'r awdur hwn. Yn hytrach 'torf ardderchog' y saint yw ei ddiddordeb a goleuo'r darllenydd amdanynt yw ei nod. Ceir yma lawer o wybodaeth am wroniaid-rhai'n enwog, rhai'n fwy distadl-a fu'n cyhoeddi'r ffydd, drwy bregeth neu emyn neu lyfr. (Prin iawn, yn 61 y disgwyl, yw'r gwragedd yn eu plith.) Nid rhyfedd fod yma le amlwg i'r pregethwyr a'r diwygwyr mawr, o Daniel Rowland a Howel Davies drwy gyfnodau Christmas Evans a Dafydd Morgan, Ysbyty Ystwyth, hyd Dr Martyn Lloyd-Jones yn y ganrif hon. Sonnir hefyd am eglwyswyr efengylaidd eu bryd, fel John Hughes, Llanbadarn Fawr, a David Howell (Llawdden). A rhoddir He teilwng i Syr John Philipps, Castell Pictwn, cyfuniad anghyffredin o biwritan ac uchel-eglwyswr ac un a fu'n gefn i Griffith Jones. Nid yr un pwyslais a fyddai gan bawb wrth drin hanes Cristnogaeth yn y broydd hyn: gellid son am ddefosiwn mynachlog a phererindod a chreirfa ac am dystiolaeth oesol y llannau. Ond rhaid diolch i Dr Aaron am gasglu cynifer o ffyrdd ac am roi inni lyfr mor hylaw. [Dr John Aaron has produced an informative and wide-ranging guide to places of religious interest in Cardiganshire and Pembrokeshire: he provides useful historical and biographical details, and is especially strong on the evangelical Protestant tradition. The book is lucidly written and contains illustrations and sketch maps.] IAN SALMON Aberystwyth