Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COF CENEDL IX. Golygwyd gan Geraint H. Jenkins. Gwasg Gomer, Llandysul, 1994. Tt. 190. £ 6.00. Bydd y darllenwyr hynny sy'n gyfarwydd a'r gyfres CofCenedl yn croesawu Cyfrol IX yn y gyfres hylaw hon. Yn glawr i'r gyfrol ceir darlun trawiadol Ivor Davies, 'Cof Cenedl', a hynny'n adlewyrchu awydd y golygydd i weld byd y celfyddydau gweledol yng Nghymru yn rhannu'r un nod a'r gyfres, sef ceisio meithrin ymwybyddiaeth a balchder y genedl yn ei gorffennol. Unwaith eto, dyma ysgrifau amrywiol wedi'u trefnu'n gronolegol. Maent yn rhychwantu'r cyfnod o'r Oesoedd Canol hyd at droad y ganrif bresennol, er bod pedair o'r chwe ysgrif yn ymwneud a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n siwr y bydd croeso arbennig gan haneswyr menywod yng Nghymru i ysgrif Sioned Davies sy'n ymdrin a'r ferch yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol. Mae'n trafod y modd y portreedir merched mewn ffynonellau Cymreig yng nghyd-destun delweddau benywaidd llenyddiaeth cyfandir Ewrop yn y cyfnod. Prin fod awduron gwrywaidd Cymru yn fwy rhyddfrydig eu hagwedd nac awduron cenhedloedd eraill tuag at y rhyw fenywaidd, a cheir yr un gwrthgyferbyniadau yn y modd y'u darlunir hwy; ar y naill law fel bodau israddol, ond ar yr un pryd yn wrthrychau moliant ac addoliad. Braf fyddai cael mwy o ymchwil ar le'r ferch yng nghymdeithas Cymru'r Oesoedd Canol. I ba raddau yr oedd y ddelwedd yn adlewyrchu'r gwir tybed? Cymdeithas Sir Gaernarfon yn yr unfed ganrif ar bymtheg yw testun Gareth Heulfryn Williams. Ceir ganddo ddadansoddiad manwl o safle uchelwyr a'u tenantiaid gan ddefnyddio tystiolaeth ewyllysiau a rhestri eiddo. Cyferbynnir bywyd cymharol foethus y lleiafrif a thlodi ac ansicrwydd y mwyafrif llethol. Llwydda'r awdur i greu darlun o'r esgyrn sychion gan roddi inni olwg ar yr hyn a oedd yn dal y gymdeithas hon at ei gilydd. Aeth Catrin Stevens i sawl ardal yng Nghymru wrth hel gwybodaeth am arferion a defodau marw a chladdu. Dysgwn am arferion megis taflu rosmari i'r bedd a'r modd y byddai'r clochydd yn estyn ei raw dros y bedd agored i dderbyn ei dal gan y galarwyr. Eithr nid casgliad o arferion gwerin yn unig a gawn, oherwydd mae Catrin Stevens yn dadansoddi'r defodau hyn yn erbyn cefndir ymdrech yr Anghydffurfwyr i ddiwygio'r deddfau claddu (sef y frwydr a ddaeth a'r cyfreithiwr ifanc, Lloyd George, i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf yn 1888). Dyma gip ar y gwrthdaro rhwng Anghydffurfwyr ac Eglwyswyr yn y ganrif ddiwethaf o gyfeiriad anarferol. Ysgrif fwyaf gafaelgar y gyfrol i mi oedd honno o eiddo Paul O'Leary yn trafod agweddau Cymry'r bedwaredd ganrif ar bymtheg at yr ymfudwyr Gwyddelig hynny a oedd wedi ymsefydlu yn eu plith. Dengys yr awdur sut y defnyddid portread poblogaidd dilornus y Cymry o'r Gwyddelod yn fwriadol er mwyn cynnal y ddelwedd wrthgyferbyniol yr oedd Cymry dosbarth canol yr oes yn ei chreu o'r dosbarth gweithiol Cymreig. Dyma ddatgelu hagrwch hiliaeth y Cymry tuag at eu cyd-Geltiaid ar adeg pan oeddynt hwythau'n ceisio eu hamddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau'r Saeson. Da o beth yw ei gydnabod a'i drafod. Dau Gymro ar ddau begwn eithaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw testunau dwy