Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1659, heb orfod wynebu chwalu ei freuddwydion gan adferiad y frenhiniaeth ym 1660.Y syndod yw, o ystyried maint ei gyfraniad a swm a sylwedd ei gynnyrch, mai dim ond deugain mlwydd oed ydoedd yn marw. Profodd yn ystod ei oes fer ei fod ymhlith y gwyr mwyaf athrylithgar a rhyfeddol a welodd Cymru erioed. Wrth deithio'r wlad ar gefn ceffyl y darllenai Howel Harris waith Morgan Uwyd, gan ganmol yr awdur yn helaeth. Gobeithio y caiff y darllenydd heddiw sedd fwy cysurus, ond yr un bias ar y gwaith. [This is the third volume of the collected works of Morgan Llwyd, the first two having appeared nearly a century ago (edited by T. E. Ellis in 1899 and J. H. Davies in 1908). This volume completes the collection. As R. Tudur Jones states in the introduction, many of the materials included are mere jottings, but these do exert a peculiar fascination for the reader. The most insubstantial of these are, however, relegated to the appendices. In addition to Morgan Llwyd's own writings, this volume contains several letters addressed to him and a number of documents relating to the Civil War and Commonwealth period. It is a valuable and useful publication, which must be welcomed as a means of providing easy access to the works of one of the greatest and most original thinkers Wales has ever produced.] ERYN WHITE Aberystwyth PRAIDD BACH Y BUGAIL MAWR: SEIADAU METHODISTAIDD De-Orllewin Cymru. Gan Eryn M. White. Gwasg Gomer, Uandysul, 1995. Tt. ix, 243. £ 12.95. Pleser amheuthun i mi, beth amser yn 61, wrth gyfeirio at erthygl gyfoethog a gyfrannodd y Dr Eryn White i Cof Cenedl oedd rhagweld y gellid disgwyl croesawu ar fyr dro astudiaethau pellach yn deillio o ysgrifbin yr awdures ifanc dalentog hon. A bellach dyma hi wedi cyhoeddi cyfrol nodedig ddisglair ar hanes y trigain a mwy o seiadau'r Methodistiaid a flodeuodd yn Sir Gar rhwng dechreuadau'r Diwygiad Methodistaidd a blwyddyn yr Ymraniad, 1750. Dau gryfder arbennig sydd i'r astudiaeth hon.Yn gyntaf, nid ar rai o arweinwyr blaenllaw y mudiad y canolbwyntir sylw, er nad oes modd anwybyddu gwroniaid megis Howel Harris, Daniel Rowland a Williams Pantycelyn, ac yn wir, ni ddylid eu hesgeuluso. Ond cynghorwyr ac aelodau cyffredin y seiat y rank-and-file a gaiff yr ystyriaeth yn bennaf yma, a hynny'n gwbl briodol. Yn ail, ar sail chwilota manwl a