Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANEs CYMRU: Llyfr PaCED. Gan J. Graham Jones. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994. Tt. vii, 203. £ 5.95 clawr papur. Cymhares yw'r gyfrol hon i'r Pocket History ofWales a gyhoeddwyd yn 1990, o eiddo'r un awdur. Yr oedd y gyfrol Saesneg yn olynydd i'r hanes poced gan Syr John Edward Lloyd, ac mae hon yn cymryd lle'r cyfieithiad o waith y gwron hwnnw. Y mae'r Hanes Poced o ran ei phenodau bron yn llwyr yn drosiad o'r testun yn y Pocket History. At ei gilydd mae'r trosiad hwnnw yn boddhau ond bod y ffurf gwmpasog weithiau yn rhygnu a bod diffyg idiomau Cymraeg ar brydiau. Gellid achwyn hefyd am ambell i derm Cymraeg. Mae ymarfer y gair 'dinesydd' am 'denizen' yn ymddangos yn amwys i'r adolygydd hwn, a phaham ar y ddaear mabwysiadu 'Jacobiaeth' am 'Jacobitism' pan mae 'Jacobitiaeth' wedi llawn boddhau ers o leiaf adeg clasurwr mwyaf hanes Cymru, R. T. Jenkins? Mae'r gyfrol Gymraeg a'r gyfrol Saesneg yn wahanol i'w gilydd mewn un modd, sef bod yr awdur wedi achub ar y cyfle i ychwanegu at nifer y blychau achlysurol o wybodaeth thematig neu fywgraffyddol fanwl a ddefnyddir i ffrwythloni cynnwys y penodau, trefniant oedd mor ddeniadol yn y gyfrol Saesneg. Y mae hyn yn dderbyniol yn y Gymraeg yn ogystal, ond gwaetha'r modd, un canlyniad yw ei fod yn ychwanegu at anghytbwysedd yr arolwg. Y mae'r pwyslais yn drwm ar hanes y Gymru fodern; debyg iawn bod tua hanner y llyfr yn canolbwyntio ar y cyfnod ar 61 1760. Canlyniad arall y wybodaeth ychwanegol yw newid ton y fersiwn Cymraeg o'i gymharu a'r Saesneg, yn enwedig wrth drafod gwleidyddiaeth yr ugeinfed ganrif. Ychwanegir pwyslais ar dwf y mudiadau gwladgarol a chenedlaethol. Dim drwg yn hynny, fe ddichon, ond mae'n lied awgrymu bod dehongli hanes cyfoes yn rhwym i weithredu ad hoc er boddhau y ddau grwp ieithyddol. Un gwelliant amlwg wrth gyflwyno'r blychau gwybodaeth yw'r sylw gwell a roddir i hanes y Gymraes. Yn ogystal a'r hen Jemima Nicholas yr unig ferch yn y Pocket History! cawn hefyd yn awr fymryn am arwresau megis Gwenynen Gwent. Mae diwylliant Cymraeg yn derbyn triniaeth reitiach hefyd ac o blith y dewis bywgraffyddol mae'n debyg mai'r unig un dadleuol arall, heblaw am Jemima, yw Twm Sion Cati. Gwir bod yna ramantiaeth yn perthyn iddo ond fel cynrychiolydd y diwylliant traddodiadol Gymraeg yn oes y Tuduriaid nid yw yn yr un cae a nifer helaeth o feirdd a bonedd eraill. Bwriad y gyfrol yw cyflwyno arolwg cryno o hanes Cymru i'r darllenydd cyffredin, beth bynnag ei wybodaeth am Gymru. Yn hyn o beth y mae'n llwyddo i raddau helaeth iawn, megis y gyfrol Saesneg. Yr hyn a gawn yw adroddiad hanesiol a chronolegol heb ymgymryd a rhai o'r dadleuon