Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

no coherent image of the real agrarian world emerges. This, of course, is understandable since McRae's dramatis personae more often than not represented the world as it ought to have been, rather than its mundane realities. Like many writers of the following century they chose conveniently to ignore the sweat and stink of labour and the aching drudge and sheer tedium of the agrarian treadmill. RICHARD MOORE-COLYER Aberystwyth COF CENEDL XI. Gol. G. H. Jenkins. Gomer Press Llandysul, 1996. Tt. xi,184. £ 6.95. Yn un o ysgrifau difyr y gyfrol hon, mae Dr Dafydd Arthur Jones yn son am yrfa Thomas Levi, golygydd y misolyn mwyaf llewyrchus yn hanes y Gymraeg, Trysorfa y Plant, a werthai 45,000 copi y mis yn 1881, gan ddweud (t. 110) 'niwlog iawn oedd ei amgyffred o hanes Cymru Ni rannai Levi yr un delfrydau ag O. M. Edwards ac nid oedd fwriad ganddo i ddeffro cenedl a fu gyhyd o dan sawdl.' Afraid dweud fod y gyfres Cof Cenedl yn rhannu hyn o leiaf o ddelfrydau O. M., bod angen cyson atgoffa'r genedl o'i hanes. Ond y mae tuedd ymhlith rhai haneswyr i anwybyddu neu ddibrisio ffynonellau llenyddol, a da o beth yw cael llith yr athro Gwyn Thomas ar ddechrau'r gyfrol hon ar Bedair Cainc y Mabinogi. Mae llawer o anghytuno ynghylch arwyddocad y chwedlau hyn, ac mae'n gymorth mawr i gael ein tywys mor esmwyth trwy haenau gwahanol o ystyr, fel bod brawddegau bychain yr oedd dyn wedi eu hanwybyddu yn taflu goleuni ar gymdeithas llysoedd y Cymry yn y Canol Oesau. Cawn ddarlun o'r cyfarwydd, neu'r storiwr traddodiadol, yn dysgu trysorfa enfawr o hanesion ar ei gof, gan Gwyn Thomas, ac eto fe ddaeth pwynt tua diwedd y Canol Oesau, lie y teimlid bod yn rhaid cofnodi'r hen chwedlau llafar ar femrwn a phapur. Anodd gwybod beth yn union oedd y cymhellion, ac y mae'r un anhawster yn codi gyda gwaith y milwr anhygoel o ddiwylliedig o Ronant yn Sir y Fflint, Elis Gruffydd, pwnc pennod Dr Ceridwen Lloyd-Morgan. Gweithiai Elis yn Llundain ac yng Nghalais yn Ffrainc, gan gofnodi pob math o ddysg draddodiadol Gymraeg yn ei lawysgrifau, a chyfieithu llyfrau i'r Gymraeg. Mae'n fwyaf enwog am gyfansoddi cronicl o hanes y byd, o bosibl y llyfr hwyaf yn y Gymraeg, gan ei orffen yn 1552. Pwysleisia Dr Lloyd-Morgan mai dyn oedd yn pontio dau gyfnod a dau ddiwylliant gwahanol oedd Elis, cyfoeth hen ddiwylliant pendefigion Tegeingl, a byd newydd Prostestaniaeth ac Ewrop. Mae ysgrif