Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

functioned and, indeed, what the social, economic and political effects of their military operations were will be rather less than satisfactory. That, after nearly a hundred years, The Welsh Wars can still serve to stimulate current research is sufficient justification for a new edition. ANDREW AYTON Hull BEIRDD A THYWYSOGION: BARDDONIAETH Llys YNG NGHYMRU, IWERDDON A'R ALBAN. Golygwyd gan Morfydd E. Owen a Brynley F. Roberts. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1996. Tt. xxxii, 356. £ 35.00. Cyfrol deyrnged yw hon i'r Athro R. Geraint Gruffydd, ac yn briodol iawn mae'n canolbwyntio ar faes y prosiect ymchwil y bu ef yn arweinydd arno yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, sef gwaith Beirdd y Tywysogion. Mae'n cynnyws cyfraniadau gan un ar bymtheg o ysgolheigion sy'n cwmpasu pob agwedd ar y farddoniaeth, ei hiaith, ei chrefft, ei dysg, a'i chefndir hanesyddol, yn ogystal ag ymdriniaethau a deunydd cymharol o Iwerddon a'r Alban, a llyfryddiaeth sy'n amlygu ehangder diddordebau'r Athro Gruffydd. Yn sail gadarn i'r astudiaethau hyn y mae'r gyfres odidog o olygiadau a gynhyrchwyd gan dim y Ganolfan, sydd wedi sefydlu ac egluro testunau'r cerddi ac wedi'u dyddio mor fanwl a phosibl. Am y tro cyntaf mae modd bwrw golwg dros farddoniaeth y cyfnod yn ei chrynswth ac olrhain y cysylltiadau niferus rhwng y cerddi a'i gilydd a rhwng y Gogynfeirdd a'r Cynfeirdd. Un o gryfderau mawr y gyfrol hon yw'r trafodaethau manwl ar eirfa a therminoleg a'r hyn y maent yn ei ddatgelu am fydolwg y beirdd. J. E. Caerwyn Williams sy'n arwain yn hyn o beth gydag astudiaeth nodweddiadol eang ar y geiriau Cymraeg sy'n cynnwys y bon can. Defnyddir yr un dull gan y Chwaer Bosco wrth drafod yr holl enghreifftiau cynnar o'r gair awen, gan amlygu'r cyfuniad o Gristnogaeth a phaganiaeth sy'n ymhlyg ynddo. Terminoleg dychan sydd dan sylw gan Catherine McKenna, ac mae ei hysgrif yn amlygu grym y gred gyntefig yng ngallu'r bardd i beri niwed drwy'i anair. Ceir ysgrif ddisglair gan Marged Haycock yn trafod y gair medd a'r nexus seinegol a thematig cymhleth sy'n gysylltiedig ag ef. Darperir arolwg cyffredinol ar iaith Beirdd y Tywysogion gan D. Simon Evans, ac mae sylw manwl i eirfa hefyd yn nodweddu ysgrifau eraill sy'n ymwneud yn fwy a chefndir cymdeithasol Y farddoniaeth, yn enwedig un Morfydd Owen ar y berthynas rhwng y beirdd