Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

on the first secret press. It is sad that lack of space prevented Fr Edwards from dealing more fully with Persons's devotional writing, but it would be churlish to end other than on a note of profound gratitude for a superbly documented and thoroughly honest book. R. GERAINT GRUFFUDD Aberystwyth Y DRYCH Kristnogawl: LLAWYSGRIF CAERDYDD 3.240. Copiwyd gan W Alun Mathias, golygwyd gyda rhagymadrodd gan Geraint Bowen. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996.Tt. 322. £ 25.00. Bu'r llyfr hwn yn yr arfaeth am yn agos i drigain mlynedd, fel yr eglurir yn y Rhagair, ac felly y mae'r croeso iddo'n awr gymaint a hynny'n fwy gwresog. Y mae'r Drych Cristianogawl (Kristnogawl) yn unigryw ymhlith holl lyfrau rhyddiaith y Gwrth-ddiwygiad Cymreig am fod y traean cyntaf ohono ar gael mewn print-cynnyrch gwasg ddirgel Penrhyn Creuddyn, 1587-a'r cwbl (bron) ohono ar gael yn llawysgrifen y bardd a'r copiydd Llywelyn Sion yn y gyfrol a adwaenir bellach fel llawysgrif Llyfrgell Dinas Caerdydd 3.240. Mr W. Alun Mathias a gopiodd y testun llawysgrif gyntaf yn 1937 dros yr Athro T. J. Morgan, a fu'n hir yn bwriadu cyhoeddi golygiad ohono ond a lesteiriwyd, ysywaeth, yn ei fwriad. Trosglwyddodd ef y copi i Dr Geraint Bowen, a'r copi hwnnw, wedi'i warantu gan y llygatgraff Athro Ceri W Lewis, a olygir ar ein cyfer yn awr. Hyd y gallaf i farnu, y mae'r copi bron iawn a bod yn gwbl gywir, a'r unig wallau o unrhyw bwys y sylwais i arnynt-a'r rheini'n wallau'n codi o'r broses argraffu, mae'n ddiau-Qedd hvn am Ivn (t. 133,11. 28) a sefyU am serfyll (t. 140, 11. 4). Priodol iawn oedd gwahodd Dr Geraint Bowen i olygu llawysgrif Llywelyn Sion ar gyfer ei chyhoeddi. Ers yn agos i hanner canrif bu'n gweithio'n ddyfal ar hanes y Gwrth-ddiwygiad yng Nghymru. Cyhoeddodd lu o erthyglau a nodiadau sylfaenol bwysig: fe'u rhestrir bron i gyd yn Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg, gol. T Parry ac M. Morgan (Caerdydd, 1976), tt. 132-4, 139, 143-4, 146-50. Yn 1952-3 enillodd radd MA Prifysgol Lerpwl am draethawd 'Uenyddiaeth Gatholig y Cymry (1559-1829): rhyddiaith a barddoniaeth', ac yn 1978 radd Ph.D. Prifysgol Cymru am draethawd llawer mwy swmpus, 'Rhyddiaith Reciwsantiaid Cymru'. Byddai'n gymwynas fawr pe cyhoeddid yn un gyfrol, o bosibl mewn ffurf dalfyredig, y traethawd eithriadol werthfawr hwn. Cyn ymddangos o'r golygiad hwn o'r Drych yr oedd Dr Bowen eisoes wedi cyhoeddi llyfryn trigain tudalen Y Drych Cristianogawl: Astudiaeth fel