Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Enlli. Gol. R. Gerallt Jones a Christopher J. Arnold. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996.Tt. 246. £ 14.95. Enlli yw ynys enwocaf Cymru. Y mae pawb yn gyfarwydd a'r traddodiad am yr ugain mil o saint a gladdwyd yno ac ers yr Oesoedd Canol y mae'r ynys wedi denu pererinion. Yn yr Oesoedd Canol yr oedd Enlli ym meddiant abaty'r Canoniaid Duon a gymerodd le yr hen sefydliad Celtaidd; yn 1252 etifeddodd yr abaty diroedd hen glas Aberdaron ym mhen Liyn. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg yr oedd yn un o ganolfannau'r mor-ladron a oedd cymaint o bla ym Mor Iwerddon ac erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe gynhaliai boblogaeth o 124, gan gynnwys ffermwyr, pysgotwyr a cheidwad y goleudy. Y mae'r gyfrol hon yn deyrnged i'r ynys, i'w hanes ac i'r gymuned unigryw a drigai yno ac a ymadawodd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Deialog yw'r rhagymadrodd, lie y mae'r ddau olygydd yn trafod hudol- iaeth a thynfa arbennig Enlli. Trafodir y tir ei hun gan Richard Hartnup ac Enlli'r Oesoedd Canol gan yr Athro Brynley F. Roberts, sy'n rhoi pwyslais ar yr holl gyfeiriadau at yr ynys gan feirdd a llenorion. Dymuniad Meilir, bardd Ilys Gruffydd ap Cynan, ar ei wely angau oedd cael ei gladdu ymhlith y saint. Un arall a gladdwyd yno oedd Thomas ap Gruffydd ap Nicholas o Sir Gaerfyrddin a laddwyd mewn ysgarmes ym Mhennal tua 1468. Disgrifir hanes y gymuned gan Christopher Arnold yn y bennod 'Gwerin Enlli', un o ddarnau mwyaf diddorol y llyfr. Yn y bennod hon y mae Mr Arnold yn trafod y ffermydd, megis Hendy, Ty Newydd a Christin, y tenantiaid a'u hachau. Tua 1700 daeth yr ynys i feddiant teulu Glynllifon trwy briodas, a chymerai'r Arglwyddi Newborough diddordeb arbennig yn y rhan anarferol honno o'u treftadaeth; yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg penodid un o'r trigolion yn 'frenin' neu bennaeth yr ynys a cheir darlun ardderchog yma o'r cymeriad patriarchaidd hwnnw Love Pritchard, 'brenin' enwocaf Enlli. Diddorol yw sylwi hefyd fod Henaduriaeth Llyn ac Eifionydd wedi bod yn bryderus iawn am lacrwydd moesau'r trigolion pan agorwyd capel ar yr ynys yn 1875. Mewn pennod