Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

arall y mae Mr Arnold yn son am yr olion archaeolegol, yn arbennig yr abaty a'r fynwent, ac am adeiladu'r ynys. Enlli a'r mor yw testun y diweddar Lewis Lloyd, sy'n trafod y traddodiad morwrol, llongddrylliadau, a pheryglon y Swnt rhwng yr ynys a'r tir mawr. Y mae R. Gerallt Jones yn ystyried cysylltiadau llenorion modern ag Enlli, gan gynnwys Catrin Daniel, Brenda Chamberlain a'r bardd yr oedd yr ynys dan ei ofal ysbrydol am rai blynyddoedd, R. S. Thomas; trafodir arlunwyr gan Elis Gwyn Jones a cheir yma nifer o enghreifftiau o waith Brenda Chamberlain. Y mae'r bennod olaf gan Mona Williams am atgofion llafar yn arbennig o ddiddorol, yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth a fyddai wedi bod mewn perygl o fynd i ebargofiant oni bai am ei hymdrechion. Y mae ffotograffau Mick Sharp yn ychwanegu at werth y gyfrol. Dyma ddarlun o gymuned sydd wedi diflannu am byth. Y mae Enlli yn awr yn warchodfa natur ac y mae'r goleudy erbyn hyn yn otomatig, heb angen ceidwaid. Wrth ddarllen y llyfr hwn y mae rhywun yn meddwl am gymunedau coll ynysoedd eraill o gwmpas Prydain ac Iwerddon. Gadawyd North Rona, y fwyaf anghysbell o Ynysoedd Prydain yn y ddeunawfed ganrif; gadawyd St Kilda yn 1930 a'r Blaskets oddi ar arfordir Swydd Kerry gyda'u diwylliant gwerin mor gyfoethog yn 1953. Sut oedd Enlli yn cymharu a'r cymunedau hyn? Cymuned gyntefig oedd St Kilda a'i thrigolion yn byw dan ordd y 'Wee Frees' ac yn dibynnu ar ddrycin y graig am eu cynhaliaeth; yr oedd pobl Enlli yr un mor soffistigedig a'u cymdogion ar y tir mawr, er mae'n debyg na cheid yr un math o ddiwylliant gwerin ag a fodolai ar y Blaskets. Ond yr oedd ymweliadau ysgolheigion fel Carl Marstrander a Robin Flower a'r ynysoedd hynny wedi perswadio Tomas 6 Criomhthain a Muiris 6 Suilleabhain i roi eu hatgofion ar glawr a chasglu straeon Peig Sayers. Ond y mae rhai o'r cymunedau hyn yn bodoli o hyd, megis Rathlin, oddi ar arfordir Swydd Antrim, ac Eigg, lie y mae'r trigolion wedi llwyddo i brynu'r ynys yn ddiweddar. Y mae gan Enlli ei lie arbennig yn ein hanes ac yn ein hymwybyddiaeth ninnau ac y mae'r pererinion yn croesi'r Swnt o hyd. A. D. CARR Bangor [This book is a collection of studies of the island of Bardsey, reputed burial place of 20,000 saints and a famous place of pilgrimage. The contributors discuss its history and archaeology, its literary and artistic connections and the unique community which lived there until the middle of the twentieth century.]