Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

schools but also the impact of state intervention in education on, for example, social mobility. Continuity of allegiance to the profession resulted in a transformation of individual prospects in harmony with that of the education system. This family's history is also one of ever-increasing involvement of government in the education of the masses, with all the profound issues which that raised in terms of social policy. GARETH ELWYN JONES Swansea DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru. Golygwyd gan M. Wynn Thomas. Cyfres Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig. Gwasg Prifysgol Cymru, 1995. Tt. viii, 216. £ 12.95. Cyfrol i ymfoddi ynddi yw hon, yn hytrach nag i'w gwerthfawrogi'n oeraidd wrthrychol. Y rheswm yw bod ynddi gyfran mor helaeth ohonom, yn genedl, yn wlad a ysgarwyd, yn frwydr barhaus, yn freuddwyd heb ei gyflawni. Gwir hefyd ei bod hi'n enghraifft o broses lie mae'r union ddadl, neu ffenomen, yn codi dro ar 61 tro mewn hanes, fel cefn rhyw forfil chwedlonol yn codi o'r dyfroedd. Yn yr achos hon ymwneud yr ydys a'r peth annelwig, lledrithiol hwnnw, sef ein hunaniaeth fel endid gym- deithasol. Nid rhyfedd fod y darllenydd yn teimlo iddo/i fod yma o'r blaen, a hynny ar ysbeidiau byth oddi ar gyfnod y Dadeni Dysg ymlaen. Dwy iaith a dau ddiwylliant. Y mae tuedd ynom i gredu ein bod ar ein pennau'n hunain yn hyn o beth, ond nid felly. Af i ddim ar 61 y ffaith i Ewrob gyfan fyw drwy ganrifoedd lawer gan ystyried fod y byd Uadin yn gwahodd ar yr un llaw a byd y fernaciwlar ar y llall, gan greu rhyw fath o Carmina Burana byrlymus! Yn nes atom mewn amser ystyrier Catalunya, sy'n dal i fyw'n ddyddiol drwy'r hen frwydr ynglyn a hawl yr iaith Gastilianeg hefyd i fynegi bywyd y rhan honno o'r Orynys. Cof da am drafodaeth ym Marcelona yn 1995 pan orfodwyd fi i amddiffyn hawl R. S. Thomas i'w ystyried ei hun yn fardd o Gymro-ac i gael ei ystyried felly gan ei gynulleidfa — tra'r oedd R. S. yn eistedd ar y llwyfran yn f'ymyl. Cefndir y drafodaeth honno oedd llwyr wrthwynebiad cenedlgarwr o lenor o Gatalunya i ystyried dim a sgrifennwyd yn Sbaeneg yn ddarlun dilys o fywyd y wlad honno. A hynny er gwaethaf y ffaith mai disgrifio Barcelona a'r cyffiniau yn y Gastilianeg, er enghraifft, y mae dau o awduron mwyaf poblogaidd a chydnabyddedig yr Orynys, sef Eduardo Mendoza a Vazquez Montalban. Yr argyhoeddiad tu cefn i ragymadrodd y golygydd yw i'r amser ddyfod i ail-ystyried cwestiwn y ddau ddiwylliant. Hawdd deall paham. I raddau