Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

o drigolion y cymoedd glo yn ymateb i gerdd Norris 'Burning the Bracken': 'When summer stopped, and the last/Lit cloud blazed tawny cumulus/ Above the hills, it was the bracken/Answered: its still crests/Contained an autumn's burning'. Os methodd Idris Davies ag ymateb i'r bywyd gwledig, yr oedd hynny oherwydd rhyw duedd bersonol, a gellid dweud yr un peth am Alun Lewis. Mewn cyd-destun gwahanol byddai'n wir dweud mai tuedd bersonol i edrych yn fwy i gyfeiriad lioegr na Chymru a bennodd fod Dylan Thomas neu Alun Lewis neu Alun Llywelyn-Williams wedi sefyll y tu allan i'r traddodiad Cymreig yn ei ystyr gysefin. Fel yr awgrymodd Dafydd Glyn Jones mewn erthygl goeth ar fardd Pont y Caniedydd yn Poetry Wales yn 1971, 'adlewyrchu profiad eu cyfnod' sydd bwysig, nid ffynhonnell ysbrydoliaeth y beirdd. Mae'r gyfrol hon yn garreg ateb lie clywir adlais o bell ac agos, ac o wahanol gyrion. Rhaid canmol y golygydd am ei ddewis o gyfranwyr ac o destunau am hynny. Ar yr un pryd nac anghofier gwerth y cyfraniadau unigol. Y mae'n dealltwriaeth bellach o Idris Davies, Caradoc Evans a Charadog Prichard, Alun Lewis ac Alun Llywelyn-Williams, Euros Bowen a Vernon Watkins, Dorothy Edwards a Kate Roberts, gymaint yn well oherwydd inni eu gweld mewn ffordd wahanol, sydd yn dwyn at ei gilydd yr hyn o dreftadaeth a oedd ganddynt yn gyffredin, ac yn wahanol. Ceir ymdriniaeth, yn ogystal, a natur y traddodiad gwledig a'r modd y'n cyflyrodd, ynghyd a dadansoddiad o len menywod yng Nghymru o 1973 hyd at 1993. Mewn gair, cyfrol i'w thrysori, a mynd yn 61 ati am faeth a syniadaeth newydd. GARETH ALBAN DAVIES Aberystwyth [This review discusses a collection of essays which look afresh at the relationship between Welsh-language literature and Welsh writing in English. Particular authors are compared, and the rural tradition and women's writing from 1973 to 1993 are also discussed. This is a volume to treasure and to return to for sustenance and new conceptions.] SHIPOWNERS OF CARDIFF. A CLASS BY THEMSELVES: A HISTORY OF THE CARDIFF AND BRISTOL CHANNEL INCORPORATED SHIPOWNERS' Association. By David Jenkins. University of Wales Press in association with The National Museums and Galleries ofWales, Cardiff, 1997. Pp. 105. £ 12.95. It is improbable that Cardiff's turn-of-the-century shipowners would have foreseen that their dockland domain would one day host a Welsh Assembly,