Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ironically, as this review is being written, it has been announced that the Welsh Industrial and Maritime Museum is to close and lose its dockland presence. It is to be greatly hoped that, wherever its new home may be, the museum will be allowed to continue the good and important work it has already accomplished in bringing Wales's industrial and maritime history to a wider audience-through exhibitions, displays and welcome publications like this one. BILL JONES Cardiff ALFRED RUSSEL WALLACE, GWYDDONYDD ANWYDDONOL. Gan R. Elwyn Hughes. Gwasg Prifysgol Cymru, 1997. Tt. viii, 208. Clawr papur. Yn Efrydiau Athronyddol 1991, cyhoeddodd yr awdur erthygl ddiddorol ar Alfred R. Wallace, dan y teitl 'Gwyddonydd Anwyddonol?', a da yw gweld fod yr erthygl ardderchog honno wedi datblygu'n llyfr cyfan. Tybiaf ei bod yn gywir dweud nad yw enw Wallace yn enwog ymhlith trwch y boblogaeth, hyd yn oed yng ngwlad ei eni. Y rheswm am hynny yw iddo fyw yng nghysgod Charles Darwin. Yn wir, fel y eddyf yr awdur, enynnwyd ei ddiddordeb yn Wallace pan yr oedd yn ymchwilio i fywyd a gwaith Darwin ar gyfer ei gyfrol gampus ar y gwr hwnnw yn y gyfres Y Meddwl Modern. Ond ymddengys bellach na fydd Wallace yn y cysgodion am hir, gan fod y gwir amdano ef a'i gyfnod yn dod i'r golwg. Fel y gwyr pawb, 'Darwiniaeth' yw'r enw a roddwyd ar y ddamcaniaeth wyddonol sy'n esbonio tarddiad a datblygiad y rhywogaethau naturiol-gan awgrymu mai'r Sais greodd y ddamcaniaeth ac, o ganlyniad, sy'n haeddu ei anfarwoli oherwydd hynny. Ond, yn gynyddol, dengys ymchwil i hanes gwyddoniaeth y cyfnod, nad yr un gwr hwnnw sy'n haeddu'r clod. Dangosir yn glir yn y llyfr hwn fod yna gynllwyn a thwyll wedi bod ar gerdded i gelu'r gwirionedd ynglyn a" maintioli a gwerth cyfraniadau nifer eraill o bobl o'r cychwyn cyntaf-gan gynnwys cyfraniad, yn anad neb, Wallace ei hun-i greadigaeth y ddamcaniaeth o esblygiad bioloegol y rhywogaethau naturiol. Y mae Hughes yn cydnabod ein dyled i'r Americanwr, H. L. McKinney, am ei waith trwyadl ac arloesol yn y maes hwn, ac am iddo ddangos yn hollol beth ddigwyddodd yn y flwyddyn dyngedfennol honno, sef 1858, pan yr anfonodd Wallace (a oedd yn dal wrth ei ymchwil yn Malaya) erthygl at Darwin yn egluro iddo, nid yn unig ei syniadau am ddosbarthiad bioddaearyddol rhywogaethau naturiol, ond hefyd sut y bu i'r rhywog- aethau esblygu yn 61 yr egwyddor o oroesiad y cymhwysaf. Eddyf Wallace