Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mai darllen gwaith enwog Malthus ar egwyddorion poblogaeth a roddodd iddo'r sythweliad creadigol a'i galluogodd i greu damcaniaeth ynglyn a mecanwaith esblygiad. Serch hynny, Darwin gafodd y clod am hyn oil, a hynny oblegid ei gefndir, ei gyfoeth, a'i gysylltiad a'r sefydliadau gwyddonol parchus, tra bu'r Cymro athrylithgar mor barod i ddibrisio ei gyfraniad ei hun. Y mae hwn yn llyfr campus a chefais, ar y naill law, fwynhad, ac ar y Haw arall, fy nghynhyrfu ganddo. Y mae'r awdur wedi ymchwilio'n fanwl i fywyd ac i gefndir bywyd Wallace-a thrwy hynny, taflodd gryn oleuni ar natur addysg a diwylliant yn ne Cymru yn rhan gyntaf y ganrif ddiwethaf. Mae'n syndod y diddordeb ym mhob maes o wybodaeth a ddangoswyd gan werin bobl Cymru y cyfnod, a pha mor gyfoethog yr oedd y llyfrgelloedd megis hwnnw yng Nghastell Nedd. Yma, yng Nghastell Nedd, ac mewn rhannau o ganolbarth Cymru, yr crewyd diddordeb y Wallace ifanc ym myd natur, a hynny wrth iddo weithio yn yr ardaloedd hyn fel tirfesurydd. Gwreiddiodd yr ysfa am wybod mwy cyn ddyfned ynddo nes iddo anturio i bellafoedd daear, i'r Amazonas yn gyntaf, ac yna i Malaya yn ddiweddarach, er mwyn chwilio a chasglu sbesimenau o bob math o rywogaethau, ac, yn sgil hynny, dod o hyd i ddamcaniaeth fyddai'n egluro'n wyddonol darddiad ac esblygiad yr amrywiol rywogaethau hyn. Tanlinellir gan Hughes mai anffyddiwr oedd Wallace yn y cyfnodau teithiol hyn, ac, o ganlyniad, ni lyffetheiriwyd ef gan uniongrededd crefyddol ei ddydd, a'r gred mewn creu arbennig, wrth iddo chwilio am ateb i'r cwestiynau gwyddonol. Wrth ddarllen hanes y teithiau yma, ceir yr argraff fod Wallace, ar ei orau, yn ail i neb fel naturiaethwr a bioddaearyddwr yn ei gyfnod. Yn wir, erys rhai o'i weithiau yn y meysydd hyn, gan gynnwys ei magnum opus, The Geographical Distribution of Animals, ymhlith campweithiau gwyddonol ei gyfnod. Eithr, fel y tystia is-deitl y llyfr, 'gwyddonydd anwyddonol' oedd Wallace. Adlais yw'r term 'anwyddonol' yma o ddisgrifiad Darwin o argyhoeddiad Wallace yn ddiweddarach yn ei fywyd, fod 'achos (ne Achos)' yn gyfrifol am ddatblygiad dyn a'i ddeallusrwydd, ac 'ni allai dderbyn fod cadwyn ddi- dor yn ymestyn o'r anifeiliaid isaf hyd at ddyn yn ei holl ogoniant' (t.50). Ond y mae i'r disgrifiad arwyddocad ehangach hefyd gan i Wallace, wrth ganolbwyntio ar broblemau dynol a chymdeithasol, ymwneud cymaint a'r byd ofergoelus-yr union fyd yr oedd ef ei hun, fel gwr ifanc, wedi condemnio'n ddiflewyn-ar-dafod amaethwyr de Cymru'r cyfnod am fyw ynddo. Ar ddiwedd ei oes, 'roedd Wallace yn gymeriad rhyfedd o gymhleth, yn meddu ar gredoau gwyddonol yn gymysg ag argyhoeddiadau dwfh ysbrydegol. Awgrymais i mi gael fy nghynhyrfu'n achlysurol gan gynnwys y llyfr- Yr unfed bennod ar ddeg fu'n bennaf gyfrifol am hynny. Yma trafodir, ymhlith