Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CANU COFYN A DIOLCH c. 1350-c. 1630. Gan Bleddyn Owen Huws. Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1998.Tt. xv, 272. £ 25.00. Arolwg yw'r astudiaeth ddadansoddol a darllenadwy hon o fath arbennig 0 ganu caeth a ddiogelwyd mewn mwy na chwe chant o gywyddau'r cyfnod dan sylw. Ar ddiwedd y gyfrol rhestrir enwau 151 o feirdd y gwyddys iddynt ganu cywyddau gofyn a diolch, ac mae'r awdur yn tybio y gall fod rhagor eto o gerddi heb eu darganfod. Er bod y cyfnod yn un maith tair canrif ymron ceir digon o unoliaeth o arddull a ffurf yn y corff hwn o ganu i gyfiawnhau ei astudio'n benodol. Mae'r cywyddau a astudir yn taflu goleuni ar swyddogaeth y bardd a'i berthynas a'i noddwr ac ag eraill. Gellir dyfalu bod elfennau o ffasiwn a ffurfioldeb yn y canu, ac eto yr oedd llawer ohono'n gwbl ymarferol. Mae'n arwyddocaol mai'r cais mwyaf cyffredin yn y cywyddau gofyn yw cais am farch, y cyfrwng teithio anhepgor; ceir sawl enghraifft hefyd o gais am glogyn neu ddilledyn arall i ddiogelu cysur. Dichon fod gwreiddiau'r math hwn o ganu mewn cyfnod cynt, ond barn yr awdur yw mai yn y bedwaredd ganrif ar ddeg y cafodd ei ffurfioli, yn enwedig wrth i'r penceirddiaid orfod mynd ar deithiau clera ar 61 colli nawdd sefydlog llysoedd y tywysogion. Yn ystod y cyfnod dan sylw gwelir hefyd ddatblygiad yn union swydd- ogaeth y bardd. Mae'r cywyddau cynharaf yn gofyn am rodd i'r bardd ei hun, ond erbyn canol y bymthegfed ganrif ceir nifer o gerddi sy'n erchi ar ran uchelwr, tuedd a gynyddodd yn y ganrif ddilynol, wrth i'r beirdd ddod yn fwy 'proffesiynol', efallai. Ceir hefyd gerddi lie mae'r bardd yn gweithredu fel cyfryngwr i geisio cymod rhwng dwy garfan, a rhai lie mae'r bardd yn negesydd. O ystyried y gwrthrychau gwel yr awdur fod ymron hanner y cywydd- au'n ymwneud ag anifeiliaid a phumed ran yn ymwneud ag arfau. Dillad a gwisgoedd yw'r trydydd categori (llai na 10 y cant). Diddorol iawn yw'r goleuni y mae hyn yn ei daflu ar sefyllfa gymdeithasol ac economaidd ardaloedd arbennig: ceir, er enghraifft, nifer o gywyddau gofyn a diolch am fwcledi yn ardal Rhiwabon a Wrecsam, lle'r oedd diwydiant arfau ffyniannus. Pwysleisir mai mawl sy'n ganolog i'r cerddi gofyn a diolch; yn hyn o beth maent yn adlewyrchu elfen hanfodol yn y traddodiad barddol Cymraeg. Gyda threigl amser daw'r mawl yn bwysicach, gan hawlio tipyn mwy o le yng nghanu'r unfed ganrif ar bymtheg nag mewn cyfnod cynt. Byddai noddwyr y cyfnod diweddar hefyd yn disgwyl ach yn rhan o'r cywydd. A phan ddaeth y canu yn fwy ffurfiol, ymddengys fod uchelwyr yn llai hael eu hymateb i geisiadau'r beirdd. Calon y cywydd gofyn neu ddiolch yn y cyfnod hyd at 1500, a'r hyn sy'n rhoi iddo ei hynodrwydd llenyddol, yw'r dyfalu a'r disgrifio cynnil; ond