Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mewn cyfnod diweddarach gwelir y grefft hon yn dirywio a'r disgrifiad o'r rhodd a geisir yn hawlio llai o le wrth i'r canu droi'n fwy confensiynol. Mae'r awdur yn ymdrin yn drylwyr a'r wedd hon ar y cywyddau, gan dynnu sylw at gelfyddyd cwestiynau a'r elfennau o ddoniolwch a amlygir. Ei gasgliad terfynol yw mai'r cyfnod o ganol y bymthegfed ganrif hyd ddiwedd chwarter cyntaf yr unfed ar bymtheg oedd oes aur y canu gofyn a diolch. Serch hynny, y mae'r cysondeb a geir yn y canu dros y cyfnod i gyd yn awgrymu elfen o sefydlogrwydd cymdeithasol annisgwyl, o ystyried cyfnewidiadau gwleidyddol y cyfnod, ac mae'n arwyddocaol fod y dirywiad yn cydredeg a'r newid yn natur cymdeithas yng Nghymru o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Er mai astudiaeth lenyddol ydyw yn y bon, mae'r gyfrol hon yn taflu goleuni gwerthfawr ar swyddogaeth y bardd ac ar natur perthynas mewn cymdeithas, ac yn hyn o beth mae o fudd mawr i'r hanesydd cymdeithasol yn ogystal. Mae eglurder ei mynegiant ac ystod eang ei chyfeiriadaeth hefyd yn ei gwneud yn bleser i'w darllen. [This is a comprehensive study of a particular genre of Welsh poetry, namely, the cywyddau of request and thanks. Over the period 1350-1630 these retained a remarkable unity of form and style, though the peak of perfection was reached in the years 1450-1525. Originally the poet sought benefits for himself, but came later to act as a messenger for others' requests, and sometimes as a peacemaker between enemies. The author analyses the surviving corpus of cywyddau by 151 poets, highlighting in particular the objects most frequently requested, namely, horses, armour and clothing. The work as a whole illuminates not only the social status and function of the poet, but also the nature of the patron-poet relationship in late-medieval and early-modern Wales.] RHIDIAN GRIFFITHS Aberystwyth POWER IN TUDOR ENGLAND. By David Loades. Macmillan, 1997. Pp. viii, 183. This is the sort of book some academics write not so much to put forward original ideas but to meet the perceived demands of students. Professor Loades begins with lofty promises 'to examine the whole structure of the body politic, in terms of its bones and sinews', and especially 'to analyse the interaction between the central machinery of government and local and provincial elites'. But he quickly (if disappointingly) reassures his