Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hefyd sy'n gyfrifol, go debyg, am ddewis y teitl trawiadol, a fenthyciwyd, yn briodol iawn, oddi wrth un o ser disgleiriaf ffurfafen lenyddol Gwynedd, Ellis Wynne, yntau'i hun yn offeiriad yn Eglwys Loegr. Ein diolchiadau cynnes, yn ogystal, i Ganolfan Uwchefrydiau Crefydd am gyhoeddi'r lIyfryn hylaw a chymen hwn. Am wn i, mae'i gynnwys yn fywiocach a mwy difyr am iddo gael ei baratoi yn wreiddiol fel cyfres o ddarlithiau. Tuedd mwyafrif awduron yw traethu'n gliriach a mwy deniadol o orfod ceisio swyno'u gwrandawyr a'r gair llafar nag wrth anelu at gyrraedd yr un gynulleidfa trwy lunio ysgrif ar bapur. Prin i'w ryfeddu yw'r deunyddiau hynny sydd wrth law er mwyn llunio amlinell torn o ddatblygiad y ffydd yn ystod yr oesoedd cynharaf. Rhaid i'r Dr Nancy Edwards ddibynnu ar dystiolaeth archaeoleg, a honno'n denau ar y naw! Syndod, fodd bynnag, faint y gallodd ei hel at ei gilydd. 0 safbwynt ffynonellau, nid oedd gorchwyl Dr Huw Pryce ryw lawer yn haws. Fodd bynnag, erbyn cyfnod y Normaniaid gellir olrhain datblygiad yr esgobaeth diriogaethol, sefydliad y mynachlogydd, a'r tensiwn a fu rhwng yr Eglwys a'r awdurdod secwlar. Nid cyn diwedd yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid y gellir manteisio ar ddigon o ddeunyddiau i geisio penderfynu beth oedd lie crefydd ym mywyd y gwr a wraig gyffredin a cheisio amgyffred beth oedd eu hymateb hwy i'r ffydd Gristnogol. Rhyw gymysgfa ryfedd ydoedd o ddefosiwn digon dilys a lien gwerin ofergoelus. Pryder pennaf y mwyafrif oedd ceisio osgoi cael eu cosbi am eu pechodau daearol yn y byd tu hwnt i'r lien, ac er mwyn sicrhau hynny dibynnent nid yn unig ar yr Hollalluog a'r gwasanaethau eglwysig ond hefyd ar gymorth y Forwyn Fair, yr holl saint, pererindodau, maddeuebau, ac ati. Cyflwynir darlun meddylgar ac awgrymog o'u hymateb hwy ym mhenodau Dr A. D. Carr a'r Dr Enid P. Roberts. Down at ddulliau o addoli a chredu a fydd yn fwy cyfarwydd a dealladwy i lawer o'n cenhedlaeth ninnau wrth inni darllen penodau campus y Dr W. P. Griffith a'r diweddar annwyl Athro R. Tudur Jones ar yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Yma y traethir hanes dechreuadau'r frwydr rhwng yr Eglwys Sefydledig a'r Piwritaniaid a hefyd dwf rhyfeddol y Methodistiaid a sectau eraill; datblygiadau a lwyr newidiodd batrymau cred ac addoliad y Cymry. Hwyrach mai'r allwedd i'r gyfrinach oedd dysgu'r mwyafrif i allu darllen a'u peri i awchu am ddarllen y Gair drostynt eu hunain a gwrando arno'n cael ei bregethu gan dywysogion tafod-aur eu pulpudau. Pennod hynod awgrymog yw honno gan Dr Griffith ar y bedwaredd ganrif ar bymtheg, un yn cynnwys pob math o sylwadau gwreiddiol sydd yn taflu llif o oleuni ar gredoau ac arferion Cymru gyfan yn ogystal ag esgobaeth Bangor yn y cyfhod. Dadlennol iawn, yn ogystal, yw'r hanes a geir gan Mr Tomos Roberts am yr holl ailadeiladu ac atgyweirio a fu ar eglwysi'r esgobaeth yn y ganrif honno. Ac i gloi'r astudiaeth cawn ysgrif fer ond craff ac chynhwysfawr gan Dr Densil Morgan ar ddatblygiadau'r ugeinfed ganrif hyd at 1920.