Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

athrawiaethol erthyglau a chyfaddefiadau gwir Brotestaniaid trwy y teyrnasoedd. 13. Trwy lawer o draul, gan ysturiaid eu gwendid darfu iddynt adeiladu tu' cyfarfod, fel y byddeu iddynt yno addoli Duw ynghid, Mewn mawl a gweddi, a phre- gethiad y gair. Ond pan aethant i sertiffio eu tu' yn du' cyfarfod yn o'l y gyfraith o flaen swyddogion parchedic y Tir, gwnaeth eu hen wrthwynebwyr y gwaith yn anhawdd ac yn beryglus iawn iddynt: etto mewn amynedd heb ymddial yr ymddygasant tan y gofyd gan feddianu mesur o ddiddanwch. 14. Trwy drugaredd rhaglyniaeth a weithiodd ar eu rhan, ac yn ebrwydd yn eu tu' cyfarfod, heb ofn dyn, y gwasanaethasant Dduw tan gymmorth yr Yspryd, yn o'l rheol y gair, ac yn gyttun a goleuni eu cydwybodau, mewn heddwch, cariad a diddanwch. Yno Duw pob gras a lewyrchodd yn ddaionus arnynt, ac a orchymynodd lwyddiant iddynt; gan ddwyn tystiolaeth i air ei ras. Gosododd Duw yn eu plith nerth Yngair ei Efengyl er adeiladaeth y crediniol yn ei Sancteiddaf ffydd, ac er troedigaeth eraill. Lewis Thomas yr hwn a ddewiswyd gan yr holl braidd trwy ympryd a gweddi a chyhoeddus alwad, ydoedd, a thrwy ddaionus raglyniaeth ydyw etto 1726 fugail arnynt. Ymhob ordinhad yrydoedd eu pen tragywyddol trugarog yn eu plith Ac yn ol rhyw amser y dygodd rhagluniaeth finnau i roddi fy hun i'r Arglwydd yn eu mysc, ac yno trwy ras mewn mesur y meddianais ef. 15. Mewn perthynas i fobl Henllan, oddiwrth ba rai y ciliasant, tystiolaethodd Duw yn ei raglyniaeth yn eu herbyn ac felly yn ol rhai blynyddoedd deisyfasant aelod o Eglwys Rhydyceished i ddyfod yw eu plith a bod yn fugail arnynt. Ond pa fodd yr aeth Palmer Dduwiol attynt, trefn y gwaith, a diben y weithred, pa undeb a pha gymmundeb y mae ef yn feddianu, pa fodd- lonrwydd yn ei le, a pha lwyddiant yn ei waith, pa etifeirwch ddarfu iddynt ddangos am yr hen wrthwynebiad i wirioneddau yr Efengyl ac achos Duw, nid yw yn perthyn i mi fynegu. Eithr hyn a ddywedaf taer ddumunais a thaer ddumunaf bob daioni ar eu rhan.