Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

16. Y mae ar fy Nghalon osod terfyn i'r gwaith buchan presenol mewn byr eiriau o gariad ac annogaeth i Eglwys Crist yn Abarelwyn a rhydyceished. Frodyr Anwyl Nac anghofiwch hen flinderau, gweddiau a gryddfannau. Breichiau tragywyddol oeddynt oddi tanoch, a thrwy ras yr ydych yr hyn yr ydych. Cariad tragywyddol Duw atoch, y cyfammod tragywyddol a Christ er eich rhan, iechydwriaeth dragywyddol yngwaed or Oen, cyfiawnder tragywyddol y cyfryngwr yn eich cyflawn ddilladu, a diddanwch tragywyddol trwy yr Yspryd byddent fyth yn wresog ar eich calonnau, ac yn ymdscleirio yn eich holl ymarweddiad. Purdeb athrawiaeth gras, gwirionedd a grym dyscyblaeth yr Efengyl byddent fyth yn werthfawr 0 wir gariad at y pethau hyn y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon. Na chollwch y pethau a wnaethoch. Bydded gogoniant person Crist Duw-dyn ynghid a chyflawnder gras a gwir- ionedd yntho bob awr yn eich golwg. Bydded gâs gennych bob pechod ac yn ewyllysgar ymroddwch i bob dyledswydd rhodiwch yn yr Yspryd. Parhaed brawd- garwch, a gochelwch Yspryd y byd, a disgwilwch am y gobaith gwynfydedic. Nac esceulyswch eich cid- ymgynylliad, na roddwch le i oerfelgarwch na hunan geishiad Crist sydd oll yn oll Bydded hyspys i'ch plant yr hyn a wnaeth Duw trosoch. Byddwch ffyddlon hyd y diwedd y mae eich cyflawn iechydwriaeth yn agos. Diolch i Dduw a chwithau am eich cymdeithas gynt yn yr Efengyl A Moliant i Dad y trugareddau am y gymdeithas ogoneddus a ddaw. Megis y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd felly rhodiwch ynddo. Col. ii. 6. DIWEDD.