Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y COFIADUR Cofnodion y Gymdeithas Hanes. CYNHALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Hanes yng Nghapel y Gwynfryn, Rhydaman, am ddau o'r gloch, ddydd Iau, Mehefin 9, 1927. Cadeiriwyd gan yr Athro J. E. Lloyd, Bangor, Llywydd y Gymdeithas. Cadarnhawyd y Cofnodion a argraffwyd yn Rhifyn 4 o'r Cofiadur. Traddodwyd yr Anerchiad Blynyddol gan Dr. Thomas Richards, Llyfrgellydd, Coleg y Gogledd, ar Henry Maurice Piwritan ac Annibynnwr." Diolchwyd iddo'n gynnes gan y Parch. D. Eurof Walters a'r Parch. H. Elfet Lewis, a phenderfynwyd cyhoeddi'r Anerchiad yn Rhifyn 5 o'r COFIADUR. Etholwyd y Swyddogion a'r Pwyllgor a ganlyn Llywydd J. E. Lloyd, Bangor. Trysorydd Timothy Richards, Llanbedr. Ysgrifenyddion J. Morgan Jones, Bangor; T. Eirug Davies, Llanbedr. Pwyllgor John Evans, Aberhonddu H. M. Hughes, Caerdydd L. Berian James, Penygroes E. B, Jones, Gwalchmai D. Eiddig Jones, Lerpwl; H. Elfet Lewis, Llundain; D. Morgan Lewis, Aberystwyth; D. Eurof Walters, Oswestry; D. G. Williams, St. Clears D. H. Williams, Barri; R. Peris Williams, Rhyl.