Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beddfaen John Williams, Ty'n y coed. CEIR yn wynebu'r ddalen hon ddarlun beddargraff John WiUiams o Dy'n y coed, ym mhlwyf Llan Gian yn Lleyn, bugail cyntaf YmneilltuWyr Sir Gaernarfon. O'i gyfieithu i'r Gymraeg, rhed fel hyn YMA Y GORWEDD IECHYD Y WLAD MAB MAETH RHINWEDD FFENICS1 LLAN GIAN A BRIG DUWIOLDEB JOHN WILLIAMS O DYNYCOED GWEINIDOG TRWY RAS DUW A FU FARW MAWRTH 28 Y FLWYDDYN O OED CRIST 1673 AC O'l OED EI HUN 47 Nid oes ond rhyw ddeugain mlynedd er yr adeg y daeth y garreg hon i'r golwg. Yr oedd yn anhysbys i'r Dr. Thomas Rees pan yn adrodd hanes John Williams yn ei History of Protestant Nonconformity in Wales (ail argr. 1883, tud. 129), ac hefyd i Rees a Thomas, pan yn trin yr un mater yn Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru" (1873, cyf. iii., tud. 162). Yn 1885, yn ôl yr hanes a rydd yn Gleanings from God's Acre" (1903, tud. 123), y tarawodd Myrddin Fardd ar ei thraws ym mynwent Llan Gian. Gorweddai ar yr ochr ddeheuol i'r eglwys, y wyneb yn isaf, ar letraws y fynwent, a'r ddaear yn ei gorchuddio fel nad oedd ond ychydig iawn ohoni yn y golwg. Yn ôl pob tebyg, ar ôl ei pharatoi a'i gosod yn ei lle yn ofalus gan y teulu, cafodd ei symud a'i throi wyneb i waered ymhen blynyddoedd gan ryw rai a dybient nad gweddus oedd y fath barch a chlod i bregethwr Ymneilltuol. Y cyntaf, hyd y gwn i, i gyhoeddi'r beddargraff ar ôl ei ddarganfod yn 1885 1 Ffugiai'r Groegiaid am yr aderyn a alwent yn phoenix nad oedd ond un o'i ryw i'w gael yn y byd.