Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

John Williams, Ty'n y coed. UWCHLAW'R niwl sy'n toi hanes Ymneilltuaeth LlYn ynghanol yr ail ganrif ar bymtheg, saif ambell binacl yn lled amlwg, ac odid na John WiUiams ydyw'r amlycaf o'r pinaclau hynny. Yn anffodus, pinacl ei hanes yntau, fel hanes eraill o'i gyfoeswyr, sydd uwchlaw'r niwl-y mae corff yr adeilad tan orchudd o hyd, ac ni allwn honni y gallwn trwy'r ysgrif hon chwalu dim o'r niwl. Ganed John Williams tua'r flwyddyn 1626, o un o deuluoedd mwyaf bonheddig Llyn, a gellir tybied i'w rieni arfaethu iddo fod yn feddyg. Yn 1647 yr oedd yn aetod o Goleg Iesu, Rhydychen. Erbyn hynny yr oedd teimladau pleidgar y wlad wedi chwerwi'n ddirfawr, a'r gobaith am gymodi'r tair plaid fawr yn cilio'n brysur. Oddiwrth hanes dilynol y gWr sy gennym yn destun, tueddwn at gredu na allai ef fod yn danbaid iawn dros ei olygiadau, eithr nid ydym i feddwl wrth hynny nad oedd ei argyhoeddiadau'n ddyfnion a phendant. Yr oedd ei gartre ynghanol bro ag oedd a'i phrif ddynion yn wrth- frenhinwyr amlwg, ac yn gefnogwyr eiddgar rhagllaw i'r Weriniaeth. Yr oedd darn lled ysgwar o Lŷn dan ddylanwad y gwyr hyn, a safai eu trigfannau ar gonglau'r ysgwar-Gruffydd Jones, CasteUmarch, ar gongl y dwyrain Sieffre Parri, Rhydolion, ar y de Richard Edwards, Nanhoron, ar y gorllewin, a Thomas Madryn, o Fadryn, ar y gogledd. Credwn hefyd fod y werin oddimewn i'r terfynau hyn yn lled unfryd ymhlaid yr ysgweiriaid a enwyd. Nid yw'n synnu arnom felly weled bod John Williams, o Dy'n y Coed (neu Gastell- march uchaf) yn Annibynnwr ac yn wrth-frenhinwr. Agwedd wladol, yn bennaf, ydoedd i bybyrwch Gruffydd Jones a Thomas Madryn cyfunid Uawer o sêl grefyddol ym mhleidgarwch Sìeffre Parri a Richard Edwards; eithr am John Williams gellir dywedyd mai agwedd grefyddol oedd yn meddiannu mwyaf ar ei ysbryd ef.