Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Henry Maurice: Piwritan ac Annibynnwr. I. Ei WAITH. I FOD ar delerau gweddol dda â'r testun, priodol fydd dywedyd ar ei ben ac ar unwaith beth yw dyled Piwrit- aniaeth Cymru a'r Gororau i Henry Maurice. Ar ôl ei aileni yn 1671, am dymor byr bu iddo ddal i fyny faner Ymneilltuaeth yn nhref Amwythig a'r wlad i'r deheu iddi, gwlad Ue'r oedd gwaseidd-dra gwyr bach, gormes gwyr mawr, a thraha gwyr eglwysig wedi tyfu'n ddihareb1 yn niwedd haf 1672 aeth ar y daith ramantus honno i Leyn a brofodd iddo beth oedd grymuster argyhoeddiad hen gyfeillion a greddfau dwyfol hunan- aberth yn niwedd 1672 cafodd wys i fugeilio eglwys fawr wasgaredig Brycheiniog, gwaith a wnaeth gyda'r fath arddeliad nes gorfod i Esgob Tyddewi, yn nechreu 1673, gydnabod bod rhyw Forrice yn trefnu byddinoedd y Dissenters ac yn dod a hwy at byrth dinas gysegredig Aberhonddu. Yn 1675, iddo ef, ac nid i Stephen Hughes -iddo ef, ac nid i Samuel Jones-y gofynnwyd gan Fedyddiwr cywrain o Fryste anfon byr hanes o safle'r achos anghydffurfiol yn y tair-sir-ar-ddeg, hanes sydd fel llafn gwyn o oleuni yn gwânu ar draws nos bygddu'r erledigaeth. Yn 1676 dyma rifo crefyddwyr yr holl wlad drwy orchymyn yr Archesgob Sheldon, a chael bod 681 o Biwritaniaid yn sir Frycheiniog yn unig-mwy o saith deg nag oedd o Biwritaniaid ym Mynwy Biwritanaidd ei hun, mwy o bedwar deg nag oedd o Biwritaniaid yn holl esgobaeth Llanelwy, mwy o bedwar cant nag oedd nifer holl Biwritaniaid holl esgobaeth Bangor, a hynny heb anghofio bwrw golwg dros ddeon- iaeth wahanedig Arwystli. Henry Maurice oedd bugail 1 Parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus. Bu un o glerigwyr gwtad Amwytbig-" Mr. Wagstaffe of Little Wenlock — yn ddigon o ddya i fod yn Nonjuror yn 1689. Bu farw yng ngharchar tref Amwythig (Worìcs of the Rev. John Kettlewell [17191, Vol. 2, App. vi, p. viii).