Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cofnodion y Gymdeithas Hanes. CYNHALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas ynglŷn â chyfarfodydd yr Undeb, yng nghapel Salem, Rhosllanerchrugog, dydd Mercher, Mehefin 27, am ddau o'r gloch. Y Prifathro J. Morgan Jones yn llywyddu. Anerchwyd gan Mr. R. T. Jenkins, M.A., Bangor, ar Yr Annibynwyr a Hywel Harris." Diolchwyd gan E. Penllyn Jones a J. Dyfnallt Owen. Ail-etholwyd y swyddogion a'r pwyllgor, ac ychwan- egwyd at yr olaf J. Dyfnallt Owen, Ellis Jones, Bangor, a Griffith Jones, Bontnewydd. Cadarnhawyd hefyd benderfyniad y Pwyllgor i gael dau drysorydd, sef •■îS|ci D; J. Williams, Bethesda, dros y Gogledd a Lerpwl, a"Mr. J. R. Thomas, Llundain, dros y De a Llundain. Ymunodd y cyfarfod i longyfarch y Llywydd ar ei wneuthur yn farchog gan y Brenin. Cynhelir Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn ystod Cyfarfyddiad yr Undeb, yn Aberdâr, am ddau o'r gloch, dydd Mercher, Mehefin 19. Anerchir gan y Parch. J. Dyfnallt Owen. T. EIRUG DAVIES, Ysgrifennydd.