Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Diben y traethawd hwn yw ceisio canolbwyntio ar yr hyn sydd yn nodweddiadol o'r gyfundrefn Annibynnol, sef, ei dysgeidiaeth arbennig am gysylltiadau eglwysi unigol â'i gilydd. Ceisir dangos (a) seiliau'r ddysgeidiaeth hon yn llen- yddiaeth yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ganrif a'i dilynodd, (b) pa ffordd y ceisiwyd lliniaru, neu gymhwyso neu newid goblygiadau'r athrawiaeth yn y ddwy ganrif wedi hynny, hyd ddechrau helynt y ddau gyfansoddiad. YR EGLWYS UNIGOL Amodau Aaelodaeth-Gobaith pob Annibynnwr yn yr ail ganrif ar bymtheg, 0 leiaf hyd adferiad Siarl II yn 1660 oedd perswadio eglwysi'r wlad i gyd i fabwysiadu cynulleidfaoliaeth. Ond ni olygai hyn y byddai pawb yn y wlad yn Annibyn- wyr. Nid teilwng pobun i gymryd baich anrhyd- edd aelodaeth eglwysig. Gwyr a gwragedd gyda'r cymhwyster angenrheidiol yn unig a gaffai fod yn aelodau. Yr oedd sobrwydd, geirwiredd ac onest- rwydd yn hanfodol; ond rhaid hefyd, wrth gyffes gymeradwy a dealltwriaeth ysbrydol. Rhaid bod yn glir ynghylch gwaith a pherson Crist, ynghylch ufudd-dod i awdurdod Crist, ynghylch hunan- ymwadiad, pechod a'r angen am gyffes.1 Yr oedd hyn yn oblygedig yn niffiniad Robert Browne o'r gair "eglwys" pan ddywed ei bod "tan lywodraeth Duw a Christ, ac yn cadw ei orch- mynion mewn un cymundeb santaidd."2 Ych- wanegodd Henry Barrow at ddiffiniad Browne fod yr eglwys "wedi ei gwahanu oddi wrth baganiaid ac annuwiolion y wlad ac yn gweinyddu barn yr Arglwydd ar bob trosedd ac anufudd-dod a iJohn Owen, The True Nature oj a Gospel, Ohurch, Works, (edt. Goold), Vol. XVI, t. 15-17. 2"under the government of God and Christ, and keep his laws in one holy communion," R. Browne, A Boohe which sheweth (1582), 135.