Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Brodor o Lanpumsaint, Sir Gaerfyrddin ydoedd William Williams (1785— 1865).1 Ychydig iawn o addysg a gafodd a hynny yn yr ysgol a gynhelid yn oriel Eglwys y Plwyf. Ond aeth i Lundain, llwyddodd fel masnachwr, ac yn 1835 etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Coventry. Ond cadwai gysylltiad â bro ei febyd a bu helynt 'Beca yn ei sir enedigol yn syndod iddo ac yn gyfrwng iddo deimlo bod gwir angen am addysg yng Nghymru-sef addysg a fyddai'n lledu gorwelion meddwl ac arferion y bobl. Prin y byddai'n werth sylwi ar araith a chynnig William Williams oni bai i'r Llywodraeth ben- derfynu trefnu ymchwil i gyflwr addysg yng Nghymru, ac i'r antur honno esgor ar Lyfrau Gleision 1847 sydd yn ddiddadl ymhlith dog- fennau pwysicaf hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed y Cyngor Addysg ("Committee of Council on Education") yn gyfrifol am drefnu'r ymchwil. J. P. Kay-Shuttleworth (Syr, ar ôl hynny) ydoedd ysgrifennydd y pwyllgor hwnnw- yntau yn wr galluog iawn a ddylanwadodd yn rymus ar ddatblygiad y gyfundrefn addysg yn y ganrif honno. Dewiswyd tri dirprwywr i gynnal yr ymchwil, sef R. R. W. Lingen (1819—1905), (Arglwydd Lingen, ar ôl hynny), J. C. Symons (1809-60) a H. R. Vaughan Johnson. Cafodd R. R. W. Lingen yrfa eithriadol lwyddianhus yn Rhydychen ac yr oedd yn Gymrawd o Goleg Balliol pan alwyd arno i ymgymryd â'r gwaith yng Nghymru. Wedi gorffen gydag ymchwil 1846—47, gwnaed ef yn fargyfreithiwr yn 1847. Bu'n Ysgrifennydd i'r Pwyllgor Addysg o 1849 i 1870 a chwedyn yn Ysgrifennydd i'r Trysorlys nes iddo ymddeol yn 1870. Un o raddedigion Prifysgol lAm hanes ei fywyd gweler: Daniel Evans: The Life and Worh of WHHam Williams. Yr oedd David Owen (' Bratus ') yn gydefrydydd ag of yn ysgol Llanpumsaint.