Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COFNODION Y GYMDEITHAS HANES, 1953. CYNHALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yng nghapel Bryn- hyfryd, Caergybi, am 5 o'r gloch dydd Mercher, Mehefin 10, 1953. Llywyddwyd gan y Parch. J. Dyfnallt Owen, M.A. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. Moelwyn Daniel, Abergwili. Dewiswyd y Parchedig- ion T. Lewis Evans, Llandudno a Ll. Lloyd Jones, B.A., Aberaeron i weithredu fel ysgrifenyddion ariannol, y naill dros y Gogledd a'r Uall dros y Deau. Gwnaed hyn ar gynnig Dr. R. Tudur Jones, B.A., B.D. a'r Parch. Emlyn Jenkins, B.A., B.D. yn eilio. Traethodd Mr. T. H. Lewis, H.M-L, M.A., ar y Llyfrau Gleision (1846-7) a Sefyllfa Addysg Grefyddol yng Nghymru ym mhedwar degau y ganrif o'r blaen. Ymddengys yr hyn a baratowyd yn Y COFIADUR. Diolchwyd iddo gan y Parchedigion R. G. Owen, M.A. a R. Ivor Parry, M.A., a galwyd sylw at ofynion newydd Y COFIADUR. Cyfeiriwyd at gyfraniad ychwanegol Mr. Evan D. Jones, M.A. yn Hanes Eglwys Tal-y-bont, Sir Aberteifi. E. LEWIS Evans, Ysgrifennydd. CYN cyhoeddi'r gwaith hwn collasom ein Trysorydd, Mr. Ben Davies, Pen-lan, Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin, yng nghanol ei ddyddiau. Gwr cywir, ymroddedig, a lleygwr o'r rheng flaenaf. Wedyn, dygwyd oddi arnom ein Llywydd, Dr. H. Elfed Lewis. Ni all geiriau ddisgrifio'i ddoniau amrywiol, ac ni chofnodir byth yn llawn ei wasanaeth i fywyd gorau ein cenedl ni. Bu megis twr i'r Gymdeithas Hanes ar hyd y ffordd.