Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y COFIADUR BALEDI GWLEIDYDDOL YNG NGHYFNOD Y CHWYLDRO PIWRITANAIDD1 Yn y llith hon awn yn ôl at gyfnod babandod y newyddiaduriaeth fodern, yr oes y dechreuodd y dallen newyddion ymddangos. Yr ocdd cryn lawer o newyddion y dydd yn cyrraedd clustiau'r bobl o hyd ar ffurf penillion poblogaidd o ansawdd y faled. Fe genid y penillion gan gantorion mewn stryd a marchnad, a chafodd ambell gân yr anrhydedd o'i hargraffu. Cadwyd inni gryn nifer o'r cerddi hyn yn yr iaith Saesneg a rhai hefyd yn y Gymraeg. Ceisiwn fwrw golwg dros y llenyddiaeth faledol a gynhyrchwyd yn ystod y Chwyldro Piwritanaidd, y gwrthdaro rhwng Brenin a Senedd a'r ymgais i sefydlu llywodraeth wrth fodd y Piwritaniaid ond wrth gychwyn ar ein taith rhaid yw wrth rybudd neu ddau. Yn gyntaf, nid ein bwriad yw dihysbyddu'r maes ond yn hytrach roi darlun bras ohono. Yn ail, ni roddir ystyriaeth i'r mathau mwyaf uchelgeisiol o farddoniaeth a'r dulliau llenyddol a fyddai'n boddhau chwaeth y dysgedigion. Sôn y byddwn, yn hytrach, am y penillion a geisiai ddylanwadu ar y bobl gyffredin. Nid ystyriwn waith y bardd Saesneg Andrew Marvell a ysgrifennai gerddi i annerch Oliver Cromwell a Siarl II na gwaith gẃr bonheddig o fardd Cymraeg fel William Phylip, Hendre Fechan, a gyfansoddai farwnad i Siarl I a cherdd o groeso i Siarl II. Y penillion sydd yn cynnwys propaganda IGweler "Cerddi i Biwritaniaid Gwent a Morgannwg" gan yr Athro G. J. Williams yn Llên Cymru, Cyf. iii, rhifyn 2, tt. 98-106. Sonnir amdanynt yma, tt. 21®22. Rhoes yr Athro nifer o gerddi eraill i mi, ond bernir mai Iolo Morganwg a'u ffugiodd. Ool.