Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SABELIAID ABERTHIN. Gwelais yng nghasgliad Mr. Iolo Aneurin Williams yn y Llyfrgell Genedlaethol ddwy ddogfen a ddylai fod o ddiddordeb i'r An- nibynwyr hynny sy'n aelodau o'r Gymdeithas Hanes. Yn gyntaf, cawn ddrafft o lythyr a luniodd Iolo Morganwg yn 1797, llythyr y bwriadai ei anfon at yr Undodwr enwog hwnnw, Theophilus Lindsey. Nid rhaid manylu arno yma, a digon dywedyd ei fod yn ymwneuthur â'r cyffro a fu yn y ddiadell Annibynnol a Methodistaidd honno yn Aberthin, yn ymyl y Bont-faen, wedi i'r Methodist- iaid ddiarddel Peter Williams yn Sasiwn Llandeilo Fawr yn 1791. Fel y gwyr pawb, yr oedd llawer o'r aelodau wedi troi'n Sabeliaid, ac yn eu plith, Thomas Williams a John Williams, yr emynwyr. Yna wedi i'r rhain gael eu troi allan, gofynnwyd i Iolo Morganwg, ac yntau'n llenor Saesneg, ddwyn eu hachos i sylw arweinwyr yr Anghydffurfwyr yn Lloegr. Dyna paham y lluniodd y llythyr hwn. Dyry fanylion diddorol am yr helynt, a hefyd amdano ef ei hun, am ei gysylltiad ag Anghyd- ffurfwyr y Fro, ac am dwf yr achosion Undodaidd. Yna aeth y rhai a drowyd allan i ymgynghori â chyfreithwyr ac i geisio trefnu i ddwyn yr achos o flaen Llys y Sesiwn Fawr. Hwy bioedd y capel, meddent, nid yr ychydig drindodwyr uniongred. Dyna'r pwnc a drafodir yn yr ail lythyr, a yrrwyd at ŵr o'r enw William Humphreys, a drigai yn Alltgraban ym mhlwyf Llantrisaint. Er ei fod yn llaw Iolo, enw ei hen gyfaill, John Williams, yr emynydd, sydd ar y godre-ond eto, nid oes ryw lawer o amheuaeth ynglyn â'r awduriaeth. Y mae'n fwy na thebyg iddynt ofyn i Iolo ysgrifennu drostynt y tro hwn eto. Dylid sylwi fod y blaid hon wedi ordeinio Thomas Williams yn weinidog cyn Uunio'r llythyr. Gwelir yn y ddau lythyr